MMus Perfformio Cerddorfaol
Dyfarniad:
MMus Perfformio Cerddorfaol
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
21 Medi 2025
Hyd:
13 mis dwys neu 2 flynedd llawn amser
Cod y cwrs:
807F (dwys) neu 808F (llawn amser) – UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Ymunwch â hyfforddiant arbenigol a thrylwyr gyda cherddorion cerddorfaol proffesiynol, ochr yn ochr â chynlluniau mentora a lleoliadau gyda cherddorfeydd cenedlaethol.
Trosolwg o’r cwrs
Mae lleoliadau perfformio mewn cerddorfeydd cenedlaethol – ynghyd â chynlluniau hyfforddi a mentora wedi’u teilwra gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant – yn sylfaen i’r rhaglen meistr hon.
Mae’r rhaglen yn cael ei chynnig fel cwrs dwys 13 mis neu gwrs llawn amser am ddwy flynedd, ac mae’n rhoi’r sgiliau technegol, arddulliol ac artistig i chi sy’n sylfaen i berfformio mewn cerddorfa ar y lefel uchaf.
Gallwch arbenigo yn yr offerynnau hyn fel rhan o’ch astudiaeth:
- Basŵn
- Soddgrwth
- Clarinét
- Bas dwbl
- Ffliwt
- Corn Ffrengig
- Telyn
- Obo
- Offerynnau taro a thimpani
- Trombôn tenor neu fas
- Utgorn
- Tiwba
- Fiola
- Ffidil
Byddwch yn cael hyfforddiant un i un gan gerddorion cerddorfaol proffesiynol, ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau unigol ac ensemble er mwyn i chi allu ymgolli yn y grefft o berfformio.
Mae lleoliadau gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru wedi’u sefydlu yn y cwrs. Gyda chynlluniau mentora a seminarau datblygiad proffesiynol rheolaidd y sefydliadau hyn, mae’n hawdd i chi osod y sylfeini ar gyfer gyrfa fel cerddor cerddorfaol proffesiynol.
Geirdaon
Pam astudio’r cwrs hwn?
- Byddwch yn cael hyfforddiant perfformio arbenigol, un i un (a elwir yn ‘brif astudiaeth’) gan gerddorion cerddorfaol proffesiynol. Byddant yn eich arwain i ddatblygu rhwyddineb ac arbenigedd mewn amrywiaeth eang o repertoire cerddorfaol, gan eich helpu i baratoi ar gyfer clyweliadau proffesiynol llwyddiannus.
- Bydd eich prif astudiaeth yn cael ei hategu gan ddulliau dysgu amrywiol a chynhwysfawr: dosbarthiadau ymarferol, gweithdai, dosbarthiadau meistr a gweithgareddau hyfforddi a pherfformio.
- Mae’r gweithgareddau perfformio byw hyn yn seiliedig ar unawdau a cherddorfa, sy’n eich galluogi i wella eich sgiliau a’ch stamina, datblygu eich ymwybyddiaeth o brotocolau a disgwyliadau proffesiynol a gwella eich sgiliau cyfathrebu cerddorol a heb fod yn gerddorol.
- Yn ogystal â hyfforddi gyda cherddorion cerddorfaol proffesiynol, byddwch yn cael eich addysgu gan unawdwyr offerynnol a cherddorion siambr adnabyddus, cyfansoddwyr blaenllaw, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â phrif chwaraewyr mewn ensembles. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
- Gellir llunio eich modiwlau craidd i gyd-fynd â’ch sgiliau a’ch nodau gyrfa, gan roi dull gweithredu unigol i chi ar gyfer eich rhaglen astudio. Bydd gennych rywfaint o hyblygrwydd yn eich asesiadau gyda rhai modiwlau hefyd.
- Mae ein partneriaethau cryf â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru yn golygu y gallwch gymryd rhan yn eu cynlluniau lleoliadau – gan roi profiad perfformio a chyfleoedd rhwydweithio i chi, sy’n amhrisiadwy wrth ddatblygu gyrfa fel cerddor cerddorfaol.
- Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnig detholiad o brofiadau i’n myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae’r rhain wedi cynnwys seminarau cyflogadwyedd a gweithdai ymarferol gan gynnwys eistedd mewn adrannau a gwytnwch perfformio.
- Mae’r profiadau hyn hefyd yn cynnwys lleoliadau mewn llecynnau ymarfer ar gyfer prosiectau operatig neu gerddorfaol – yn ogystal â chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau perfformio, fel y Gala Opera a digwyddiad arbennig i Arweinyddion.
- Mae gennym gysylltiadau agos â Sinfonia Cymru hefyd, sy’n cynnig lleoliadau yn y diwydiant a chyfleoedd i arwain gweithdai cymunedol i’n myfyrwyr.
- Er y byddwch yn cael llawer o gefnogaeth unigol, byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio gyda myfyrwyr ar ein cyrsiau drama. Mae’n rhoi cipolwg i chi ar ddisgyblaethau eraill ac yn eich galluogi i feithrin partneriaethau creadigol sy’n gallu para am oes.
- Byddwch yn treulio llawer o’ch ail flwyddyn yn datblygu prosiectau hunangyfeiriedig, wedi’u curadu. Mae’r meysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt yn cynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan fentor arbenigol, a fydd yn arwain eich gwaith ac yn eich helpu i ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.
- Bob blwyddyn, mae artistiaid sy’n adnabyddus yn rhyngwladol yn ymweld â’r Coleg i berfformio, ac maent hefyd yn cynnal dosbarthiadau meistr gyda’n myfyrwyr. Yn y sesiynau cydweithredol ysbrydoledig hyn, byddant yn cynnig cyngor hollbwysig ar fynd â’ch sgiliau creadigol ac arddull i’r lefel uchaf.
- Byddwch hefyd yn creu ac yn curadu eich prosiectau perfformio eich hun, gan roi cyfle i chi wneud gwaith ymchwil manylach i feysydd sydd o ddiddordeb i chi.
- Gallwch ddefnyddio eich sgiliau a’ch talent i siapio’r genhedlaeth nesaf o gerddorion. Mae ein partneriaethau gyda Creu Cerddoriaeth, Newid Bywydau a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn caniatáu i chi gefnogi gweithgareddau wythnosol fel rhan o sesiynau ar ôl ysgol Creu Cerddoriaeth, Newid Bywydau. Gallwch hefyd fod yn fentor ac yn fodel rôl Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i blant Creu Cerddoriaeth, Newid Bywydau pan fyddant yn mynychu cyngherddau’r Gerddorfa.
Gwybodaeth arall am y cwrs
Gwybod mwy am astudio cerddoriaeth yn CBCDC
Cerddoriaeth
Cwrdd â'n staff
Ein storïau
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy