

Cyfleoedd gwaith
Rydym wedi paratoi ychydig o gyngor rhag ofn bod arnoch eisiau cael gwaith rhan-amser yn ogystal ag astudio yma yng Ngholeg Brenhinol Cymru.
Meddyliwch pa fath o waith fydd yn gweithio i chi
Mae llawer o fyfyrwyr yn gorfod gweithio er mwyn cynnal eu hunain tra byddant yn astudio. Mae’n syniad da meddwl pa fath o waith fyddai’n eich galluogi i fod yn hyblyg, a pha fath o waith sy’n fwy tebygol o ffitio o gwmpas eich astudiaethau.
Byddwch yn realistig ynglŷn â beth y gallwch ymdopi ag ef, a faint o amser sbâr sydd gennych. Gallech ystyried manwerthu, lletygarwch, gwaith creadigol llawrydd, dysgu ac allgymorth, a swyddi ar y campws.
Dechreuwch chwilio am waith yn gynnar
Mae chwilio am waith yn fusnes cystadleuol, felly gwnewch gais yn gynnar a pheidiwch â bod yn siomedig os yw’n cymryd amser i chi ddod o hyd i waith. Mae llawer o’ch cyd-fyfyrwyr yn chwilio am waith hefyd – ym mhob prifysgol yng Nghaerdydd!
Os ydych yn gwybod y bydd arnoch angen swydd ran-amser, gallech ddechrau chwilio ar-lein a gwneud ceisiadau ychydig wythnosau cyn i chi gyrraedd.
Fel arall, dechreuwch chwilio a gwneud cais yn ystod y mis cyntaf ar ôl i chi gyrraedd yma.
Teilwra eich CV
Gwnewch yn siŵr bod gennych CV un dudalen yn barod i’w chyflwyno neu ei hanfon.
Ar gyfer gwaith rhan-amser mae’n debyg mai eich ‘sgiliau’ a/neu ‘brofiad’ fydd y peth mwyaf perthnasol i’r rôl rydych yn gwneud cais amdani, felly rhowch hynny yn gyntaf.
Gall yr adran ‘addysg’ fynd yn is i lawr ar y dudalen.
Dylech gynnwys adran ‘diddordebau’ ar y gwaelod i dynnu sylw at eich personoliaeth, a chofiwch roi enwau canolwyr.
Dod o hyd i swyddi yng Nghaerdydd
Gwybodaeth ddefnyddiol

Gweithio yn y DU

Bywyd myfyrwyr
