Neidio i’r prif gynnwys

Gweithio yn y DU

Mae'n bwysig deall a chydymffurfio â'ch hawliau a chyfyngiadau mewnfudo os oes arnoch eisiau gweithio tra eich bod yn astudio yn y DU.

Rhif Yswiriant Gwladol

Er mwyn gweithio'n gyfreithlon yn y DU, bydd angen i chi wneud cais am rif Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn hanfodol at ddiben treth a nawdd cymdeithasol. Gallwch wneud y cais ar-lein a bydd angen i chi ddarparu prawf o bwy ydych chi.

Unwaith y byddwch wedi cael eich rhif Yswiriant Gwladol, fe allwch chi weithio oddi mewn i gyfyngiadau eich fisa. Cofiwch ystyried y cyfyngiadau ar oriau gwaith bob amser a gwnewch yn siŵr nad yw eich gwaith cyflogedig yn effeithio ar eich astudiaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais, cymerwch olwg ar wefan swyddogol llywodraeth y DU.

Gwybod beth yw cyfyngiadau eich fisa

Dylech bob amser roi sylw i wybodaeth eich fisa fel eich bod yn gwybod beth yw'r cyfyngiadau penodol o ran beth mae gennych hawl i'w wneud yn ystod y tymor a'r tu allan i'r tymor. Mae deall eich hawliau a'ch cyfyngiadau yn hanfodol i wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â rheolau mewnfudo'r DU.

Ni chaiff myfyrwyr sydd â chaniatâd i weithio wneud y canlynol:

  • Bod yn hunangyflogedig neu ymgymryd â gweithgarwch busnes, oni bai eu bod yn aros am benderfyniad ar gais am ganiatâd i aros fel mewnfudwr dechrau busnes sydd wedi'i gefnogi gan ardystiad gan ddarparwr addysg uwch cymwys sydd â hanes blaenorol o gydymffurfiaeth
  • Cael eu cyflogi fel diddanwr neu fabolgampwr proffesiynol, gan gynnwys hyfforddwr chwaraeon
  • Llenwi swydd wag amser llawn ar wahân i raglen sylfaen gydnabyddedig a bod pob gofyniad arall wedi'i fodloni neu os ydynt yn ymgymryd â swydd fel Swyddog Sabothol Undeb Myfyrwyr.

I gael rhagor o arweiniad manwl ar weithio tra'n astudio, mae gan Gyngor Materion Myfyrwyr Rhyngwladol y DU (UKCISA) ganllaw cynhwysfawr.

Cyfleoedd gwaith

Rydym wedi paratoi rhywfaint o gyngor os ydych yn ystyried cymryd gwaith rhan-amser tra eich bod yn astudio.


Adran archwilio