

Llety preifat
Fyddai’n well gennych chi fyw mewn llety preifat yn hytrach na neuadd? Dim problem, gallwn helpu â hynny hefyd.
Byw mewn llety preifat
Mae’r Coleg ac Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda phob myfyriwr i’w helpu i ddod o hyd i lety addas, a hyd yn oed ffrindiau i rannu llety gyda nhw o bosibl.
Dod o hyd i’ch llety eich hun
Mae gennych yr opsiwn i rentu drwy asiantaeth osod neu yn uniongyrchol gan landlord.
A chofiwch ymuno â thudalen fforwm Facebook CBCDC – grŵp Facebook caeedig sy’n cynnig cefnogaeth, cymorth a chyngor.
Yn agos at bopeth y mae arnoch ei angen
Mae ardal Cathays yn agos iawn at siopau bwyd, meddygon, deintyddion a’r ysbyty, sy’n golygu ei bod yn hawdd teithio ar droed i gael eich hanfodion bob dydd.
Cathays | Pellter i’r prif adeilad - rhwng 0.3 ac 1 filltir |
---|
Cathays | Pellter i Stiwdios Llanisien - 2.9 milltir |
---|
Cathays | Amser cerdded - 6-20 munud |
---|
Cathays | Amser beicio - 5-12 munud |
---|
Cathays | Amser bws i Stiwdios Llanisien - 25-30 munud (28/28A/28B) |
---|
Cathays | Archfarchnad agosaf - Lidl (Cathays Terrace) |
---|
Darllen pellach
Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth ynglŷn â dewis y llety iawn, gall yr adnoddau hyn helpu:
- Prifysgol De Cymru: Dewis lle i fyw – Canllawiau ar y mathau o lety myfyrwyr sydd ar gael, gan gynnwys awgrymiadau ar wneud y dewis gorau i chi.
- Llety Caerdydd – Canllaw cynhwysfawr i lety myfyrwyr yng Nghaerdydd, â chyngor ar rentu llety preifat, chwilio am dŷ, a hawliau tenantiaid.
Gwybodaeth ddefnyddiol

Canllaw i Gaerdydd

Beth i ddod gyda chi
