Neidio i’r prif gynnwys

Y Dreth Gyngor a Thrwydded Deledu

Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio a oes trefniadau yn eu lle ar gyfer y Dreth Gyngor a Thrwydded Deledu fel na fyddwch yn wynebu dirwy.

Y Dreth Gyngor

Os ydych yn fyfyriwr nid oes angen i chi dalu’r Dreth Gyngor, ond - os ydych yn byw mewn llety sy'n cael ei rannu gyda phobl nad ydynt yn fyfyrwyr efallai y bydd y llety cyfan yn gorfod talu’r Dreth.

I brofi eich bod wedi’ch eithrio rhag y Dreth Gyngor, bydd angen i chi hysbysu’r Cyngor trwy ddarparu llythyr cadarnhau statws myfyriwr, sydd ar gael i'w lawrlwytho o’r hwb ar ôl i'ch cofrestriad yn CBCDC gael ei gadarnhau. Os nad ydych yn siŵr ynghylch eich eithriad, gall Gwasanaethau Myfyrwyr eich helpu pan fyddwch chi’n cyrraedd.

Trwydded Deledu

Bydd angen Trwydded Deledu arnoch - fel arall, fe allech gael dirwy. Y newyddion da yw, os ydych yn byw mewn neuadd breswyl yna bydd eich trwydded yn dod o dan eich cytundeb gydag Unite Students. 

Os ydych mewn llety preifat mae angen i chi wneud yn siŵr bod gennych eich trwydded eich hun. 

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan TV Licensing.


Archwilio’r adran