Neidio i’r prif gynnwys

Neuadd breswyl

Severn Point yw neuadd breswyl ddynodedig y Coleg ac mae’n cynnig llety yng nghanol y ddinas. Mae’n cymryd tua 12 munud i gerdded oddi yno i’r Coleg ac mae mewn amgylchedd diogel iawn a chyffyrddus.

Mae’r llety ar gyfer myfyrwyr Coleg Brenhinol Cymru yn unig, felly mae’n ffordd dda o gyfarfod ffrindiau a chyd-fyfyrwyr CBCDC.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Llety yng nghanol y ddinas

Rydym yn gwarantu llety yn Severn Point i bob myfyriwr blwyddyn gyntaf, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol ac ôl-raddedig, os byddant yn gwneud cais am lety cyn y dyddiad cau.

Mae’r rhent yn cynnwys y biliau i gyd, ac rydym yn cynghori myfyrwyr i lofnodi contract 43 wythnos. Mae hyn yn sicrhau mai chi fydd biau’r ystafell yn ystod y gwyliau, sy’n golygu na fydd angen i chi fynd â’ch eiddo adref. 

Rhywle y gallwch ei alw’n gartref

Mae Severn Point yn cynnwys ceginau  ac ardaloedd byw o safon uchel, gydag ystafelloedd gwely en-suite sydd â phwyntiau ffôn a data, ac maen nhw 40% yn fwy na maint ystafelloedd arferol y DU. 

Mae’r llety wedi’i drefnu yn fflatiau chwe ystafell, ac mae’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ystafelloedd gwely wedi’u dylunio’n bwrpasol ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.  

Mae fflatiau penodol wedi’u neilltuo ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr rhyngwladol yn unig.

Golwg ar eich cartref newydd

Ewch ar daith rithwir o amgylch neuadd breswyl Severn Point CBCDC

Yn agos at bopeth y mae arnoch ei angen

Mae Severn Point ac ardal Cathays yn agos iawn at siopau bwyd, meddygon, deintyddion a’r ysbyty, sy’n golygu ei bod yn hawdd teithio ar droed i gael eich hanfodion bob dydd.

O Severn Point

Pellter i’r prif adeilad - 0.7 milltir

O Cathays

Pellter i’r prif adeilad - rhwng 0.3 ac 1 filltir

O Severn Point

Pellter i Stiwdios Llanisien - 2.6 milltir

O Cathays

Pellter i Stiwdios Llanisien - 2.9 milltir

O Severn Point

Amser bws i Stiwdios Llanisien - 18-21 munud (27)

O Cathays

Amser bws i Stiwdios Llanisien - 25-30 munud (28/28A/28B)

O Severn Point

Amser cerdded - 13 munud

O Cathays

Amser cerdded - 6-20 munud

O Severn Point

Amser beicio - 3-8 munud

O Cathays

Amser beicio - 5-12 munud

O Severn Point

Archfarchnad agosaf - Lidl (Rhes Cathays) neu Tesco Extra ac Aldi (Heol Excelsior)

O Cathays

Archfarchnad agosaf - Lidl (Rhes Cathays)

O Severn Point

Siop agosaf - Tesco (Ffordd y Gogledd)

O Cathays
O Severn Point

Meddygfa: Meddygfa Ffordd y Gogledd, 182 Ffordd y Gogledd, Caerdydd, CF14 3XQ

O Cathays

Rhent a chontract

Mae’r rhent yn £156.20 yr wythnos, sy'n cynnwys biliau, ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 (2025/26 i’w gadarnhau).

Rydym yn awgrymu eich bod yn llofnodi contract 43 wythnos er mwyn sicrhau mai chi fydd biau’r ystafell yn ystod gwyliau’r Nadolig a’r Pasg – sy’n golygu na fydd angen i chi fynd â’ch eiddo i gyd adref.

Y broses o wneud cais

Derbynnir ceisiadau am lety rhwng Ebrill ac Awst, ond rhaid i chi wneud cais cyn diwedd mis Gorffennaf er mwyn cael sicrwydd y bydd gennych ystafell. Pan fydd y broses ymgeisio yn agor, byddwch yn cael dolen i wneud cais, a bydd Gwasanaethau Myfyrwyr CBCDC yn neilltuo ystafell i chi ar sail eich dewisiadau. 

Bydd Unite Students yn cysylltu â thenantiaid newydd. Yna bydd y broses yn cael ei chwblhau ar-lein gydag Unite Students er mwyn trefnu contractau a blaendal.

Llety diogel

Mae Severn Point yn cael ei staffio gan dîm rheoli ar y safle ac mae ganddo drefniadau diogelwch 24 awr, systemau mynediad electronig, teledu cylch cyfyng a goleuadau ym mhob rhan o’r safle.


Archwilio’r adran