Neidio i’r prif gynnwys

Dod o hyd i ffrind

Dewis gyda phwy rydych chi’n byw – ein cynllun Dod o hyd i Ffrind.

Mae ein cynllun Dod o hyd i Ffrind yn eich helpu i gysylltu â myfyrwyr eraill sy’n chwilio am lety, boed mewn Neuadd Breswyl neu mewn llety preifat. Mae’r Coleg ac Undeb y Myfyrwyr yn cydweithio er mwyn eich helpu i ddod o hyd i le i fyw ac adeiladu cymuned groesawgar.

Yn ogystal, mae’n bosibl dod o hyd i lety ar gyfer myfyrwyr newydd gyda myfyrwyr eraill sydd yn y Coleg yn barod os oes ganddynt ystafelloedd sbâr.

Derbynnir ceisiadau am lety rhwng Ebrill ac Awst, ond rhaid i chi wneud cais cyn diwedd mis Gorffennaf er mwyn cael sicrwydd y bydd gennych ystafell. Pan fydd y broses ymgeisio yn agor, byddwch yn cael dolen i wneud cais, a bydd Gwasanaethau Myfyrwyr CBCDC yn neilltuo ystafell i chi ar sail eich dewisiadau. 


Archwilio’r adran