Sarah Bennington
Tiwtor Ffliwt
Rôl y swydd: Tiwtor Trymped
Adran: Pres
Anrhydeddau: Dip, RCM, ARCM.
Yn Lwcsembwrg y ganwyd Philippe Schartz, a datblygodd ddiddordeb cynnar yn y trymped o wrando ar ei dad yn chwarae ym mand chwyth y pentref. Cafodd ei angerdd ei feithrin gan ei athrawon sydd wedi cynnwys Dino Tomba, cyfaill da a mentor. Aeth ymlaen â’i astudiaethau yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain gyda’r diweddar David Mason, a chafodd ei wahodd wedyn i ymuno â’r Rhaglen Myfyrwyr Arbennig yn Eastman School of Music yn Rochester, Efrog Newydd. Ac yntau wedi ennill llawer o wobrau a dyfarniadau, datblygodd yrfa hynod lwyddiannus fel cerddor cerddorfaol a siambr yn ogystal ag fel unawdydd, gan berfformio ledled Ewrop, UDA a Japan.
Fel aelod a Phrif Drympedwr Cerddorfa Ieuenctid Gustav Mahler, Prif Drympedwr ac un o sylfaenwyr Cerddorfa Siambr Mahler hyd at haf 2002, a Phrif Drympedwr Adran Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ers 1998, denodd lawer o glod y beirniaid wrth berfformio o dan arweinwyr fel Claudio Abbado, Pierre Boulez, a Bernard Haitink. Hefyd rhwng 2009 a 2019, roedd yn Brif Drympedwr y Solistes Européens, Lwcsembwrg.
Mae Philippe wedi’i ddarlledu ar y BBC a nifer o rwydweithiau radio a theledu Ewrop, yn ogystal â chyhoeddi deg CD fel unawdydd. Ac yntau’n aelod brwdfrydig o’r staff addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Philippe Schartz wedi rhoi llawer o ddosbarthiadau meistr a gweithdai addysgiadol gan ymweld yn rheolaidd â phrifysgolion a chonservatoires cerddoriaeth blaenllaw yn y Deyrnas Unedig a thramor. Chwaraeodd am y tro cyntaf yn y BBC Proms fel unawdydd yn 2011 ac mae’n artist Trymped Yamaha Ewrop a’r DU.