Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Cerddorfa WNO Soirée Haf

Tocynnau: £5-£22

Gwybodaeth

Mae’r soprano byd-enwog Rebecca Evans yn uno â Cherddorfa WNO, sy’n fawr ei bri, ynghyd â Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus ar y podiwm ar gyfer cyngerdd haf bendigedig.

Gyda chymysgedd hyfryd o repertoire, mae'r cyngerdd yn cychwyn gydag agorawd gyffrous opera Ramantaidd Weber, Der Freischütz (The Marksman), ac yn parhau gydag aria gyngerdd aruchel Mozart, Ah, lo previdi, wedi’i chanu gan Rebecca Evans, sy’n adrodd chwedl Andromeda a’i haberth.

Yn arwain at yr egwyl, byddwch yn clywed yr hyfryd Symffoni Siambr yn C Leiaf, gyda’r trefniant enwog i gerddorfa gan yr arweinydd Rudolf Barshai o Bedwarawd Llinynnau Rhif 8 Shostakovich. Mae’r cyngerdd yn cloi gyda gwychder a harddwch parhaus Beethoven a’r Bumed Symffoni hyfryd, sy’n cael ei hystyried fel un o gonglfeini cerddoriaeth glasurol y gorllewin.

Ymunwch â ni ar gyfer cyngerdd haf bythgofiadwy o gerddoriaeth fendigedig a chanu ysblennydd.

Arweinydd Tomáš Hanus 

Unawdydd Rebecca Evans, soprano

Weber Agorawd Der Freischütz (The Marksman)

Mozart 'Ah, lo previdi'

Shostakovich Symffoni Siambr yn C Leiaf trerf. Barshai

Beethoven Symffoni Rhif 5

Digwyddiadau eraill cyn bo hir