Cerddoriaeth
Eliza Carthy a Jennifer Reid
Trosolwg
Iau 6 Chwe 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£10 - £20
Tocynnau: £10 - £20
Gwybodaeth
Os oes un cerddor sy’n ymgorffori dynameg a bywiogrwydd yr adfywiad gwerin presennol yn Lloegr, Eliza Carthy MBE yw honno.
Fel merch i’r arwyr gwerin Martin Carthy a Norma Waterson, magwyd Eliza ym myd cerddoriaeth draddodiadol ac o oedran cynnar cafodd ei hyrwyddo gan John Peel, Andy Kershaw a Billy Bragg. Mae cerddoriaeth Eliza yn croesi ffiniau genre ac arddull yn ddiymdrech. Mae ei llais pwerus llawn arlliwiau, chwarae hynod o hardd ar y ffidil, a pherfformiadau hudolus wedi dylanwadu ar genhedlaeth gyfan o gerddorion ifanc. Wedi’i henwebu ddwywaith ar gyfer Gwobr Mercury, mae Eliza wedi perfformio a recordio ledled y byd gydag amrywiaeth eang o artistiaid sy’n cynnwys, Paul Weller, Rufus a Martha Wainwright, Patrick Wolf, a Jarvis Cocker.
O ran Jennifer Reid, meddyliwch am ganeuon cynhyrfus ac areithio angerddol. Roedd aelodau’r dosbarth gweithiol yn creu cerddoriaeth fel pryfociad, ac mae hyn yn draddodiad y mae Reid yn ei barhau. Mae’n berfformwraig â thafodiaith Sir Gaerhirfryn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a baledi un ddalen o gyfnod Fictoraidd. Chwaraeodd Reid ran Barb yn nrama gyfnod y BBC The Gallows Pole, a gafodd ganmoliaeth fawr gan Shane Meadows, ac yn ddiweddar bu’n cefnogi Pulp a John Cooper Clarke.
Allow Youtube content?
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.