

Cerddoriaeth
Laura van der Heijden a Jâms Coleman
Trosolwg
Gwe 31 Ion 2025 1.15pm
Lleoliad
Prisiau
£8 (gostyniad o 10% oddi ar gost pob cyngerdd pan fyddwch yn archebu 4 neu fwy)
Digwyddiad o'r gorffennol: Mae hwn yn ddigwyddiad o'r gorffennol.
Gwybodaeth
‘Cyfareddol’ oedd sut y disgrifiodd un beirniad chwarae Laura van der Heijden – ac nid oes amheuaeth ei bod yn soddgrythor sy’n gwybod sut i swyno rhywun. Ond nid oes rhaid i chi dderbyn ein gair ni am hynny: gallwch glywed drosoch eich hun wrth iddi ymuno â’r pianydd Jâms Coleman ar daith gerddorol i hudoliaeth y nos – a’r cyfan mewn un awr ginio!
Debussy Sonata i'r Soddgrwth |
Britten Saith Soned gan Michelangelo: Sonetto XXX |
Florence Price Night |
Takemitsu Will Tomorrow, I Wonder, Be Cloudy or Clean? |
Korngold Die Schönste Nacht |
Britten Sonata i'r Soddgrwth |