Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Drama

Phil Okwedy: The Gods Are All Here

Tocynnau: £8-£16

Gwybodaeth

Adverse Camber Productions mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gȃr
creu a pherfformio gan Phil Okwedy
Directed by Michael Harvey

Wedi’i sbarduno gan ddarganfyddiad cyfres o lythyrau oddi wrth ei dad yn Nigeria i’w fam yng Nghymru, mae The Gods Are All Here yn berfformiad un-dyn cryf, telynegol a chynnes gan y chwedleuwr blaenllaw Phil Okwedy.

Mae’r perfformiad hudolus, cywrain hwn yn plethu chwedlau, caneuon a straeon gwerin y diaspora Affricanaidd gyda stori bersonol ryfeddol sy’n dadlennu profiadau Phil o gael ei fagu fel plentyn treftadaeth ddeuol yng Nghymru’r 1960au a’r 1970au’. Drwy ymchwilio cydraddoldeb, rhyddid, hiliaeth, teulu a chael eich magu heb eich rhieni gwaed, mewn perfformiad teimladwy, doniol a hiraethus, mae The Gods Are All Here ar yr un pryd yn stori heb amser ac eto’n bendant iawn yn stori am heddiw!

“Cafodd y sioe wefreiddiol hon ei saernïo’n anhygoel."
Rufus Mufasa

Digwyddiadau eraill cyn bo hir