Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Chwyth Siambr CBCDC

  • Trosolwg

    Gwe 7 Chwe 2025 1.15pm

  • Lleoliad

    Neuadd Dora Stoutzker

  • Prisiau

    £8 (gostyngiad o 10% ar bob cyngerdd pan fyddwch yn archebu 4 neu fwy)

Tocynnau: £8 (gostyngiad o 10% ar bob cyngerdd pan fyddwch yn archebu 4 neu fwy)

Gwybodaeth

Cyfansoddodd Jonathan Dove ei ‘Figures in the Garden’ ym 1991 fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant Mozart yn Glyndebourne, i’w chwarae yn yr awyr agored mewn arddull harmoniemusik go iawn fel rhagarweiniad i berfformiadau ‘The Marriage of Figaro’. Yn y cyngerdd hwn byddwch yn clywed pytiau o themâu Mozart yn treiddio trwy’r gwaith hyfryd dyfeisgar hwn cyn cael eich gwir drochi yn Mozart, yn ei serenâd chwyth fawr yn C leiaf.

Jonathan Dove Figures in the Garden

Mozart Serenade in C Minor K388

Digwyddiadau eraill cyn bo hir