Michael McCartney
Tiwtor mewn Cyfansoddi gyda Sgiliau Cerddoriaeth wedi’i Nodiannu
Gyda dull personol ar gyfer addysgu sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau gallu cerddorol cyffredinol pob myfyriwr yn ogystal â thechneg offerynnol, mae gwersi Alex yn aml hefyd yn integreiddio gwahanol ddulliau ar gyfer hyfforddiant y glust, gweithio gyda thrawsgrifiadau, sgiliau piano ac ymarfer metronom creadigol a sgiliau rhythm. Mae Alex hefyd yn addysgu sgiliau trawsgrifio a hyfforddiant y glust yn fwy cyffredinol, i bob un o’r myfyrwyr jazz ail flwyddyn ac ôl-radd, gan arwain at weithio’n rheolaidd gydag ystod o fyfyrwyr ar offerynnau eraill hefyd.
Gyda dull nodedig fel cerddor byrfyfyr a chyfansoddwr, mae Alex wedi rhyddhau 2 albwm ar gyfer y label clodfawr Fresh Sound New Talent o Barcelona. Yn fwyaf diweddar, rhyddhawyd record pen-blwydd ar gyfer y label, ‘Common Threads: A Celebration of 30 Years of FSNT’ y comisiynwyd Alex i gyfansoddi ar ei chyfer a’i chynhyrchu, yn 2022. Roedd y record hefyd yn cynnwys ffrind i’r label a chydweithiwr Alex yn CBCDC, y gitarydd Tom Ollendorff.
Cafodd albwm cyntaf Alex ‘Anatta’, sy’n cynnwys y drymiwr Americanaidd o fri Jeff Williams, ganmoliaeth y beirniaid fel “albwm cyntaf addawol, o ansawdd trawiadol” gan John Fordham o’r Guardian a chafodd ei ganmol fel “un o recordiadau jazz y DU gorau i mi glywed eleni” gan Stephen Graham o Marlbank pan gafodd ei ryddhau.
Arbenigedd
Yn gartrefol gydag amrywiaeth o sefyllfaoedd cerddorol, mae Alex yn aml yn canfod ei hun mewn cyd-destunau jazz ‘straight ahead’ modern yn ogystal â cherddoriaeth fyrfyfyr ac amgylcheddau mwy trydydd ffrwd sy’n asio jazz â cherddoriaeth glasurol gyfoes. Mae cydweithrediadau diweddar cyffrous yn cynnwys teithiau gyda cherddorion rhyngwladol blaenllaw megis y gitarydd o’r Unol Daleithiau John Stowell yn 2022, teithiau a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr gyda’r pianydd o’r Almaen Pablo Held, Percy Pursglove ac Oli Hayhurst a chydweithiwr o CBCDC Joshua Blackmore yn 2019 a Thaith y DU Pumawd Alex Merritt/ Steve Fishwick a ariannwyd gan ACE yn 2022 a oedd yn cynnwys Steve Fishwick, John Turville ac ati.