Gwasanaethau Myfyrwyr
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn dîm croesawgar ac ymroddedig sy’n cynnig cymorth a chyngor, gan weithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr i’w grymuso i gyflawni eu potensial tra eu bod yn astudio yn CBCDC. Mae wastad rhywun ar gael i siarad â nhw yn y swyddfa yn ystod oriau gwaith, felly galwch heibio i ddweud helô!