

Gwasanaethau Myfyrwyr
Mae'r swyddfa Cefnogi Myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd penodedig i fyfyrwyr alw heibio i gael cymorth yn ystod y tymor, felly os oes arnoch angen cymorth neu os hoffech gael sgwrs, galwch heibio i ddweud helô.
Amgylchedd tawel
Mae creadigrwydd ac iechyd meddwl yn mynd law yn llaw. Yn CBCDC credwn fod iechyd meddwl a lles myfyrwyr yn un o elfennau pwysicaf y Coleg.
Cymorth i fyfyrwyr
‘Mae astudiaethau wedi dangos y gall anawsterau iechyd meddwl fod yn uwch ymhlith y rheini sy’n gweithio’n greadigol am fywoliaeth. Weithiau mae ymdrechu am berffeithrwydd, fel y bydd perfformwyr yn ei wneud yn aml, yn golygu y gall iechyd meddwl gael mwy o gnoc pan na chaiff y disgwyliadau uchel hyn eu cyflawni.
Rydym yn ymfalchïo ein bod yn cynnig lefel eithriadol o uchel o sylw a chefnogaeth unigol, yn academaidd ac yn fugeiliol.’Kate WilliamsRheolwr Cymorth Myfyrwyr
Sut gall Gwasanaethau Myfyrwyr eich helpu chi?
Gall gadael cartref i fynd i’r brifysgol a setlo i fywyd fel oedolyn annibynnol fod yn gyfnod heriol i bawb, ac mae angen mwy o help ar rai myfyrwyr nag eraill. Mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn cydlynu ystod o wasanaethau arbenigol i gefnogi iechyd corfforol, meddyliol ac ysbrydol ein holl fyfyrwyr yn CBCDC.
Maent yn gweithio gyda’r holl ddysgwyr i sicrhau, os bydd unrhyw adegau anodd yn digwydd, eu bod yn gallu cael mynediad at apwyntiadau gyda’r tîm i’w helpu drwy unrhyw anawsterau sydd ganddynt.
Mae tîm hynod arbenigol o ymarferwyr anabledd yn gweithio gyda’i gilydd ar draws meysydd niwroamrywiaeth, iechyd meddwl ac anabledd, gan rannu arfer gorau i sicrhau bod unrhyw rwystrau i astudio yn cael eu dileu.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig cymorth llesiant a mentora arbenigol a chymorth astudio arbenigol yn fewnol ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA) i’r rheini sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau hirdymor. Mae ganddo hefyd ei wasanaeth cwnsela ei hun. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am DSA.
Os yw’n rhywbeth na all gwasanaethau myfyrwyr ei gefnogi’n uniongyrchol, mae gan y tîm gysylltiadau ag elusennau, sefydliadau a gwasanaeth y GIG a all gymryd yr awenau.
Siop un stop i gael cymorth
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr hefyd yn siop un stop i gael cymorth ymarferol o ddydd i ddydd, yn amrywio o ddod o hyd i lety addas a darpar gyd-letywyr, i gynnig wyneb cyfeillgar a sgwrs.
Mae’r rhain yn cynnwys cymorth i fyfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, anawsterau iechyd meddwl ac anableddau, gwasanaeth cwnsela cyfrinachol am ddim a chynllun Artist Iach sy’n rhoi mynediad at gymorth iechyd arbenigol cysylltiedig â pherfformio. Rydym hefyd yn cynnig cyngor a gwybodaeth ariannol, a gall ein caplan eich helpu i ddod o hyd i fan addoli priodol.
Gwasanaeth Cyswllt y Prifysgolion ar gyfer Materion Iechyd Meddwl
Mae’r Coleg bellach yn rhan o wasanaeth Cyswllt y Prifysgolion ar gyfer Materion Iechyd Meddwl (MHULS), sy’n helpu myfyrwyr sydd angen cymorth iechyd meddwl cadarn a pharhaus mewn dull cydgysylltiedig rhwng y GIG a CBCDC.
Mae nyrs iechyd meddwl yn ymuno â’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ar y campws unwaith yr wythnos ac yn gweithio gyda’r tîm ehangach i rannu cynlluniau cymorth parhaus ar gyfer myfyrwyr, hyfforddi staff Gwasanaethau Myfyrwyr a chefnogi cymuned y myfyrwyr lle bo angen.
Mae hyn yn golygu bod y cymorth iechyd meddwl gorau oll ar gael i’r myfyrwyr hynny sydd wir ei angen, ac mae’r cyfathrebu parhaus rhwng y GIG a’r Coleg yn golygu y gallwn fynd gam ymhellach i gefnogi ein myfyrwyr.
Gall Gwasanaethau Myfyrwyr neu Feddygon Teulu atgyfeirio myfyrwyr i UMHL ar ôl cyfarfod a thrafod eu hanghenion.
Os yw Gwasanaethau Myfyrwyr ar gau, yna gall myfyrwyr CBCDC ddefnyddio’r cysylltiadau tu allan i oriau hyn.
Adnoddau pellach
Mae llyfrgell y Coleg wedi creu casgliad pwrpasol o adnoddau i gefnogi iechyd meddwl, lles ac i helpu gyda’ch sgiliau astudio. Mae’n cwmpasu meysydd sy’n cynnwys yr hunan a hunaniaeth, hunanofal, niwroamrywiaeth, anabledd, astudio a pherfformio a sgiliau bywyd.
Gallwch ddod o hyd iddynt gan ddefnyddio catalog y llyfrgell a gwneud cais am unrhyw deitl yr hoffech ei fenthyg.
Ein partner lles - cylchgrawn Music Teacher
Mae CBCDC yn un o bartneriaid lles cylchgrawn Music Teacher. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cyfrannu tair erthygl i’w golofn fisol ar iechyd meddwl a lles, gan rannu syniadau, profiadau ac arfer gorau.