Pen-blwydd CBCDC yn 75 oed
Pen-blwydd hapus CBCDC! Mae’r Coleg yn dathlu pen-blwydd mawr yn 2024 - 75 mlynedd o danio dychymyg ac ysgogi arloesedd, hyrwyddo cydweithio a grymuso rhagoriaeth yn ei holl ffurfiau.
Croeso gan ein Prifathro Helena Gaunt
Teithiau trawsnewidiol: dathlu arloesi a chydweithio
Mae ffocws unigryw’r Coleg ar grefft a hyfforddiant creadigol yn grymuso ein graddedigion i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chamu ar y llwyfan byd-eang fel artistiaid cydweithredol, arloesol, a chyfranwyr gweithredol a chyfrifol i gymdeithas.
Eleni byddwn yn tynnu sylw at y nifer o ffyrdd y mae ein cynfyfyrwyr, a’r Coleg, wedi gwneud gwahaniaeth: o ymddangosiadau llwyfan gwobrwyedig yn syth ar ôl graddio i gynllunio gweithdai gyda ffoaduriaid lleol, o greu gwisgoedd sydd wedi ennill gwobr Olivier i ganu’r delyn ar gyfer Music and Memory Cafe y Gymdeithas Alzheimer, o fod y cystadleuydd cyntaf o Gymru i gyrraedd rownd derfynol BBC Canwr y Byd Caerdydd mewn 20 mlynedd i ysbrydoli pobl ifanc yn yr elusen beicio cynhwysol leol - a phopeth yn y canol.
Ymunwch â ni eleni wrth i ni edrych yn ôl ar bopeth rydym wedi’i gyflawni ac edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.
Cenedlaethau’r dyfodol: cynaliadwyedd
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd y gallwn wella hyfforddiant proffesiynol ar gyfer y dyfodol: ymateb i’r heriau mewn proffesiwn sy’n newid, gwneud dewisiadau dewr a gofyn cwestiynau sylfaenol ynglŷn â sut beth yw hyfforddiant conservatoire modern, a rhoi hyfforddiant o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr sy’n drylwyr, yn berthnasol ac yn gyfrifol.
Rydym wedi ymrwymo i gynnwys ein cymuned yn y daith drawsnewidiol hon. Mae prosiectau megis cynhyrchiad integredig Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o ‘A Christmas Carol’ a’n partneriaeth â Ramps Cymru yn ceisio gwella cynrychiolaeth pobl anabl yn ein gwaith a thrawsnewid sut rydym yn sicrhau ei fod ar gael i’n cynulleidfaoedd.
Conservatoire cenedlaethol Cymru: O Gastell Caerdydd i Ffordd y Gogledd, ac yn ôl i Gaerdydd...
O’n safle gwreiddiol yn adeilad hanesyddol Castell Caerdydd i’n campws ar Ffordd y Gogledd, mae ein conservatoire wedi mynd drwy newidiadau sylweddol. Yn 2011 ehangodd datblygiad gwerth £22.5 miliwn ein cyfleusterau i gynnwys theatr a mannau perfformio cerddoriaeth o’r radd flaenaf. Nawr, gyda’r Hen Lyfrgell yn cael ei ychwanegu, mae CBCDC ar daith drawsnewidiol i barhau i esblygu a chyfoethogi canol Caerdydd.
Byddwn yn rhannu straeon am ein campws newydd yn yr Hen Lyfrgell yng Nghanol Dinas Caerdydd drwy gydol y flwyddyn.
Apêl Pen-blwydd Mawr CBCDC
Pan fyddwn yn meddwl am ein cymuned CBCDC a drysorir gennym, rydym yn cydnabod ein rhoddwyr a’n cefnogwyr ffyddlon fel cyfranogwr allweddol ym mhopeth yr ydym yn gallu ei gyflawni ac yn fythol ddiolchgar iddynt. Bydd Apêl Pen-blwydd Mawr y Coleg yn 75 oed yn canolbwyntio ar rai o’n blaenoriaethau a’n gweledigaeth benodol i greu “conservatoire pobl” sydd â pherthynas bersonol gref, a gobeithiwn ysbrydoli eu cefnogaeth barhaus yn ogystal â chefnogaeth dyngarwyr, ymddiriedolaethau a noddwyr newydd ar gyfer:
- Bwrsariaethau, ysgoloriaethau a chronfeydd caledi
- Addysgu, cyfnodau preswyl a phartneriaethau gyda chymunedau a diwydiant
- Perfformiadau, cyngherddau ac arddangosfeydd
- CBCDC gwyrddach a mwy hygyrch
'Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn un o sefydliadau pwysicaf Cymru ac yn naturiol mae wedi ennilll enw rhagorol iddo’i hun yn fyd-eang. Mae pwysigrwydd diwylliannol ac economaidd y Coleg yn enfawr. Rwy'n falch iawn o allu helpu i ddathlu pen-blwydd y Coleg yn 75 oed.'Mark DrakefordPrif Weinidog Cymru
Dathlwch ein pen-blwydd gyda ni
Wrth i ni ddechrau ar flwyddyn pen-blwydd y Coleg yn 75 oed, mae ein lleoliadau’n orlawn o straeon sy’n dangos amrywiaeth creadigol a safon o’r radd flaenaf y gwaith y mae ein canolfan gelfyddydau wedi’i gyflwyno ers agor yn 2011. Mae perfformiadau i gadw llygad amdanynt yn cynnwys arwyr o Gymru, theatr a chlasuron opera, prosiectau cymunedol a phreswyliadau, dawns gyfoes a theatr gorfforol, a ffocws ar berfformwyr benywaidd o’r radd flaenaf.
Mae’n dechrau yma...
Yn ystod ein blwyddyn pen-blwydd yn 75 oed rydym yn dathlu rhai o’n cyn-fyfyrwyr y dechreuodd eu taith greadigol yma yn CBCDC, yn ogystal â’ch cyflwyno i genhedlaeth newydd o dalent. Gallwch glywed sut mae ein hyfforddiant wedi eu helpu, a sut maent yn gwneud gwahaniaeth yn eu meysydd ac yn eu cymunedau.