Neidio i’r prif gynnwys

MA Cyfarwyddo Opera

Er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer eich cyfweliad, darllenwch y nodiadau canllaw canlynol yn ofalus.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis ar gyfer cyfweliad ar sail y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen gais UCAS Conservatoires, CV a datganiad ategol. Argymhellwn fod ymgeiswyr yn rhoi sylw arbennig i'r wybodaeth a ddarperir ganddynt yn eu datganiad personol (ar UCAS Conservatoires). Defnyddiwch y ffurflen i ddangos diddordeb profedig ym maes opera a chyfarwyddo.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais UCAS Conservatoires dylech gyflwyno eich dogfennaeth ategol drwy Acceptd erbyn 25 Hydref 2024.

Eich cais

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr i'r rhaglen Cyfarwyddo Opera i gyflwyno CV yn manylu ar yr holl brofiad theatr a cherddoriaeth. Cofiwch gynnwys profiadau proffesiynol ac amatur, yn ogystal â phrofiadau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â chyfarwyddo.

Cyflwynwch hefyd ddatganiad byr (600 gair) yn cydnabod y cwestiynau canlynol:

  1. Pam fod gennych ddiddordeb mewn opera?
  2. Sut ydych chi’n gweld rôl y cyfarwyddwr opera?
  3. Beth allwch gyfrannu at rôl cyfarwyddwr opera?

Ar ôl asesu’r cyflwyniad, byddwn yn rhoi gwybod i chi os:

  • Rydych wedi cyrraedd y rhestr fer a byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad pellach (naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb); neu
  • Nid ydych wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.

Clyweliad pellach

Bydd y panel clyweliad yn llunio rhestr fer ar ôl ystyried y cyflwyniad. Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer fynychu cyfweliad.

Byddwch yn cael gwybod am ddyddiad ac amser y cyfweliad trwy e-bost.

Fel arfer cynhelir cyfweliadau ar gyfer cyflwyniadau a gyflwynir erbyn y dyddiad cau ym mis Tachwedd/Rhagfyr.

Yn ystod y cyfweliad, gofynnir i chi gwblhau dwy dasg:

1.  Eglurwch sut fyddech chi'n mynd ati i gyfarwyddo golygfa Mozart The Marriage of Figaro yn Saesneg Rhif 20: y ddeuawd “The Breezes” (“Sull'aria”) a'r adran fach o adroddgan sy'n arwain at y ddeuawd hon rhwng Susannah and the Countess beginning “That’s amazing” (“Cosa mi narri!”).

Os oes angen copi arnoch, cysylltwch â'r Coleg. Y cyfieithiad Saesneg llawn o The Marriage

o Figaro gan Jeremy Sams i'w weld yma:

www.chandos.net/products/catalog/CHAN%203113

Bydd gennych 10 munud i gyflwyno yn ystod y cyfweliad.

2.   Cynnig byr ar gyfer cynhyrchiad llawn o un o'r tair opera ganlynol:

  • The Coronation of Poppea – Monteverdi
  • Cosi Fan Tutte – Mozart
  • Peter Grimes – Britten

Dylech ystyried pa gynhyrchiad a pham, sut fyddech yn mynd ati i gyfarwyddo'r cynhyrchiad a phwy fyddai eich tîm creadigol delfrydol a pham. Bydd gennych 5 munud i wneud y cyflwyniad hwn yn ystod y cyfweliad.

Byddwch hefyd yn cael eich annog i siarad am eich diddordebau creadigol, gweithgareddau a dyheadau proffesiynol. Manteisiwch ar y cyfle hwn hefyd i ofyn cwestiynau sy'n ymwneud â'r Coleg a'r cwrs.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Ein nod yw rhoi gwybod am benderfyniadau o fewn 3 wythnos i glyweliad. Rhoddir gwybod am bob penderfyniad yn dilyn clyweliadau drwy UCAS Conservatoires Hub.


Archwilio’r adran