MA Actio
Ar gyfer mynediad ym mis Medi 2025, mae dau cham i’r clyweliad ar gyfer y cwrs MA Actio ar gyfer Llwyfan, Sgrin a Radio. Bydd clyweliadau’r rownd gyntaf yn cael eu cynnal ar-lein trwy hunan-dâp. Bydd clyweliadau adalw yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb, yn CBCDC yng Nghaerdydd.
Nodwch:
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y cyrsiau Actio MA a BA wneud cais erbyn y dyddiad terfyn ar gyfer y cwrs BA (Anrh) Actio a dilyn y broses clyweliadau BA. Bydd angen i ymgeiswyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer y ddau gwrs dim ond gwneud cais ar gyfer y cwrs BA, a nodi pan fyddant yn gyflwyno eu clyweliad eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer y ddau gwrs
- Dim ond yn ystod yr wythnos y cynhelir clyweliadau; ni allwn gynnig unrhyw apwyntiadau ar benwythnosau.
- Rydym yn anfon gwybodaeth am glyweliadau trwy e-bost. Ar adegau gellir anfon e-byst i ffolderi sothach, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich ffolderi sothach. Oni bai y cytunir ar estyniad, mae'n bosibl y bydd cais ymgeiswyr nad ydynt yn cyflwyno eu rownd gyntaf erbyn y dyddiad y gofynnwyd amdano yn cael ei dynnu'n ôl.
Gallwn ddefnyddio'r gwasanaeth neges Acceptd i gysylltu â chi, felly cofiwch ychwanegu getacceptd.com fel anfonwr diogel yn eich gosodiadau e-bost.
Adborth
Oherwydd nifer fawr yr ymgeiswyr sy’n mynychu ein clyweliadau actio, yn anffodus ni allwn roi adborth unigol. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol.
Cyngor i ymgeiswyr
Mae’r Coleg yn rhoi gwerth mawr ar y canlynol:
- Y gallu i ‘feddiannu’ cymeriad – i ddeall a datgelu ei seicoleg gymhleth.
- Y parodrwydd i fentro, ond i arfer peth soffistigeiddrwydd wrth wneud hynny.
- Graslonrwydd wrth weithio gydag eraill.
- Gallu technegol a mynegiannol o ran llais, symud a chanu.
- Diddordeb brwd a gwybodaeth am y theatr a’r celfyddydau perfformio perthynol.
- Profiad bywyd – rydym yn annog ymgeiswyr o ystod oedran eang.
Rydym hefyd yn gwneud yr argymhellion penodol canlynol:
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio’r darnau yr ydych wedi’u dewis yn dda.
- Osgowch areithiau gorboblogaidd. Os ydych wedi dewis darn o lyfr clyweliadau, mae’n debygol y bydd y panel wedi gweld y darn yn cael ei berfformio sawl gwaith o’r blaen.
- Osgowch areithiau gan gymeriadau sy’n llawer hŷn na chi, oni bai bod y teimladau ynddynt yn rhai oesol.
- Osgowch ddefnyddio acen heblaw eich acen ei hun, oni bai eich bod yn hollol gadarn ynddi.Osgowch areithiau ffôn.Gwisgwch ddillad priodol sy’n caniatáu i chi symud yn hawdd a chyfforddus.
- Peidiwch â defnyddio propiau.
- Mwynhewch y profiad!
Awgrymiadau Clyweliad Hunan-Tâp
- Sicrhewch eich bod yn recordio eich clyweliad mewn man addas; ceisiwch wneud eich cefndir mor blaen â phosibl ac efallai yr hoffech chi greu ychydig o le yn eich gosodiad, i'ch galluogi i symud o gwmpas heb adael yr ergyd.
- Osgowch ddefnyddio ystafelloedd sy'n rhy soniarus, er enghraifft ystafelloedd ymolchi. Gall y rhain ei gwneud yn anodd i baneli eich clywed yn glir.
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi eich goleuo yn dda a bod eich dyfais recordio wedi'i osod ar drybedd neu arwyneb gwastad yn eich llinell llygad.
- Gosodwch eich camera fel y gallwn eich gweld yn glir o'ch canol i fyny yn ystod eich caneuon a'ch lleferydd.
- Gallwch gyflwyno'ch clyweliad mewn un recordiad hir neu fel ffeiliau ar wahân, ond dylid cofnodi pob cydran mewn un cofnod.
- Peidiwch ag anghofio am y golau: Lle bo modd, gwnewch yn siŵr bod y golau wedi'i gyfeirio o'r blaen neu'r ochr. Er enghraifft, os ydych chi'n eistedd gyda ffenestr y tu ôl i chi, byddwch chi'n diflannu, a bydd y fideo yn ymddangos yn dywyll ac yn niwlog. Mae'r un mor bwysig ein bod yn gweld eich perfformiad yn ogystal â'i glywed.
- Meddyliwch am (a phrofwch) y sain: Profwch ychydig bellteroedd (y cyfeiliant ac unrhyw feicroffon y gallech ei ddefnyddio) i ddarganfod beth sy'n gweithio orau i chi. Dechreuwch ar bum i chwe troedfedd i ffwrdd ac addasu. Bydd hyn yn wahanol yn dibynnu ar leoliad a'r dyfeisiau recordio/ chwarae yn ôl a ddefnyddir. Gellir defnyddio offer recordio neu ficroffonau allanol ar gyfer i-phone/Android i helpu i wella ansawdd sain, ond nid ydynt yn angenrheidiol. Lleihau'r sŵn cefndir. Meddyliwch am yr amser o’r dydd a’r lleoliad pan allwch chi gael y rheolaeth fwyaf dros yr hyn sy’n digwydd yn y cefndir. Mae sain yn bownsio oddi ar arwynebau caled a all greu atsain digroeso. Osgowch ystafelloedd mawr, gwag. Gartref, mae blancedi, clustogau a llenni i gyd yn ffyrdd effeithiol o amsugno'r sain.
- Gwiriwch eich Batri a Storio: Cyn i chi ddechrau recordio, gwiriwch fod gennych ddigon o gof a bywyd batri. Nid oes dim yn peri mwy o ofid na cholli'r llun perffaith oherwydd mae'r camera'n stopio rholio.
- Rydym yn ymwybodol o'r heriau a gyflwynir gan gyflwyniadau recordio a bydd ein panelwyr yn cael eu cyfarwyddo i ganiatau ar gyfer materion y tu hwnt i reolaeth yr ymgeisydd wrth wylio ac asesu'r fideo. Nid yw'r rhestr ganlynol yn gyfyngedig ond mae'n nodi'r math o faes y gallai cyflwyniad fideo effeithio arno, ac felly bydd yn cael ei ystyried:
- Oedi amser rhwng sain a delwedd
- Ansawdd sain offerynnol/lleisiol
- Piano sydd allan o diwn, neu ddim o ansawdd arbennig o dda (gan gynnwys defnyddio bysellfwrdd trydan)
- Yn ogystal, os yw'ch cymeriad gorau yn cynnwys mân ymyrraeth ddomestig (e.e. seiren yn y cefndir, rhywun yn pasio) cofiwch fod y panel yn gallu diystyru hyn, felly peidiwch ag aberthu'r fersiwn honno.
Os oes gennych anabledd a/neu os oes gennych anghenion penodol, cysylltwch â ni yn uniongyrchol yn admissions@rwcmd.ac.uk i wneud yn siŵr ein bod yn gallu gwneud unrhyw drefniadau angenrheidiol mewn pryd ar gyfer eich clyweliad.
Cwestiynau Cyffredin
Rydw i wedi ceisio archebu dyddiad ond nid oedd dyddiadau/amseroedd ar gael.
Byddwn yn parhau i gynnal clyweliadau rownd gyntaf tan ddechrau mis Mawrth ac yn dal ati i ryddhau dyddiadau fel y cânt cadarnhau. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio’r ddolen archebu yn gyson (mae rhoi nod tudalen ar y dudalen ar eich porwr rhyngrwyd yn ffordd hawdd o gadw’r ddolen). Byddwn yn caniatáu lle ar gyfer ceisiadau sy’n weddill, ond ni allwn warantu y bydd y dyddiadau a gedwir yn cyd-fynd ag argaeledd unigol.
Sut ydw i’n newid dyddiad ar gyfer clyweliad Rownd Gyntaf dros Acceptd?
Mae Acceptd yn caniatáu i chi ganslo archeb ar gyfer dyddiad neu gallwch gysylltu ag admissions@rwcmd.ac.uk a gofyn i ni ganslo archeb ar eich rhan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich ID UCAS, enw llawn, cwrs a dyddiad eich clyweliad.
Yna gallwch ddefnyddio’r ddolen archebu i archebu dyddiad arall sydd ar gael. Sylwer, os na fyddwch yn canslo eich archeb a ddim yn mynychu eich clyweliad efallai y bydd eich cais yn cael ei dynnu’n ôl.
Sut i ddod o hyd i araith clyweliad?
Nid yw’r Coleg yn darparu rhestr o areithiau (neu ymsonau) clyweliad ar gyfer ymgeiswyr, ac ni allwn wneud awgrymiadau ar gyfer areithiau addas ar gyfer ymgeiswyr unigol. Mae nifer helaeth o areithiau ar gael, rydym yn argymell eich bod yn dewis araith yr ydych yn ei hoffi, yn ei mwynhau ac y gallwch uniaethu â hi a’ch bod yn dilyn y canllawiau a ddarperir yn ein canllawiau clyweliad.
Os ydych yn defnyddio llyfr ymsonau fel man cychwyn ar gyfer dod o hyd i’ch araith, rydym yn argymell eich bod hefyd yn darllen ac yn deall y ddrama gyfan. Mae hyn yn bwysig er mwyn i chi ddeall y cymeriad, ble mae ef neu hi ar yr adeg honno yn y ddrama a’r effaith y mae’r pwynt hwn yn nhaith y cymeriad yn ei gael ar weddill y ddrama.
A allaf berfformio araith yn Gymraeg yn fy nghlyweliad?
Gallwch, gallwch ddewis perfformio araith yn Gymraeg ar unrhyw gam clyweliad. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni eich bod yn dymuno gwneud hynny. Mae hyn er mwyn i ni wneud yn siŵr bod y panel cywir ar eich cyfer, gan na fydd ein holl banelwyr yn gallu siarad Cymraeg.
A allaf berfformio cerdd yn fy nghlyweliad?
Na, nid yw’n bosibl perfformio cerdd yn y clyweliad.
Sut ydw i’n newid dyddiad clyweliad Galw’n Ôl?
Bydd angen i chi anfon cais drwy e-bost i’r adran Mynediadau, nid yw’n bosibl newid dyddiadau ar gyfer cyfweliadau galw’n ôl dros y ffôn. Dylai eich cais nodi eich enw llawn, y cwrs yr ydych clyweld ar ei gyfer, y dyddiad yr hoffech ei newid ac unrhyw ddyddiadau pellach nad ydych ar gael i’w mynychu. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i gynorthwyo pob cais i newid dyddiad, ni allwn warantu y bydd dewis arall addas ar gael.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i dderbyn penderfyniad fy nghlyweliad?
Byddwn yn rhannu’r penderfyniad yn dilyn clyweliad cyn gynted â phosibl ar ôl i ni dderbyn y penderfyniad a gadarnhawyd. Mae penderfyniadau yn dilyn clyweliadau rownd gyntaf fel arfer yn cael eu rhannu o fewn 3 wythnos wedi dyddiad y clyweliad, ond yn ystod cyfnodau prysur iawn gall gymryd mwy o amser.
Mae penderfyniadau clyweliad galw’n ôl yn cael eu rhannu fel arfer o fewn mis wedi dyddiad y clyweliad.
Os ydych yn pryderu am faint o amser y mae wedi’i gymryd, cysylltwch ag admissions@rwcmd.ac.uk. Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich ID UCAS, eich enw llawn a dyddiad y clyweliad.
A allaf fynychu clyweliad galw’n ôl ar-lein?
Mae clyweliadau galw’n ôl wedi’u hamserlennu i’w cynnal wyneb yn wyneb. Mewn amgylchiadau eithriadol gallwn gynnig apwyntiad ar-lein. Mae’r rhain yn cynnwys – eich bod wedi’ch lleoli 120 milltir o leoliad y clyweliad neu wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU; salwch; angen ychwanegol sy’n ei gwneud hi’n anodd teithio.
Os ydych wedi’ch gwahodd i fynychu clyweliad galw’n ôl a’ch bod yn dymuno gwneud cais am glyweliad ar- lein, cysylltwch ag admissions@rwcmd.ac.uk. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich ID UCAS, eich enw llawn a nodi pam yr hoffech gael clyweliad ar-lein. Sylwer na fydd clyweliadau galw’n ôl terfynol sy’n digwydd ar-lein yn cynnwys gwaith grŵp. Gallwn eich sicrhau na fydd dull eich clyweliad yn effeithio ar asesiad y panel o’ch addasrwydd.
Ffi clyweliad
Mae ffi clyweliad o £35 i’w dalu am gost trefnu a chynnal clyweliadau.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad at hyfforddiant ar gyfer y myfyrwyr mwyaf dawnus, waeth beth fo’u cefndir neu fodd ariannol. Mae ein polisi hepgor ffi wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr y gallai eu hamgylchiadau ariannol fod yn rhwystr iddynt glyweld.
Os credwch eich bod yn gymwys i gael clyweliad am ddim, anfonwch unrhyw ddogfennaeth berthnasol I admissions@rwcmd.ac.uk. Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich enw llawn a’r cwrs y gwneir cais iddo ac (os ydych wedi gwneud cais eisoes) eich ID UCAS.