MMus Arwain Corawl
Ar gyfer mynediad ym mis Medi 2025, bydd gofyn i’r holl ymgeiswyr gyflwyno portffolio i gefnogi eu cais a mynychu cyfweliad ar-lein. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais UCAS Conservatoires dylech gyflwyno eich portffolio wedi’i recordio drwy Acceptd.
Awgrymiadau a chynghorion ar gyfer cyflwyniadau wedi’u recordio
- Gwnewch yn siŵr bod eich dyfais recordio wedi’i gosod ar dreipod neu arwyneb gwastad, a sicrhau eich bod yn gallu cael eich gweld drwy gydol eich perfformiad. Os ydych chi’n defnyddio ffôn symudol, recordiwch yn llorweddol.
- Os ydych yn defnyddio ffôn symudol, gwnewch yn siŵr nad ydych yn recordio eich cyflwyniad yn y “modd hunlun”.
- Rhaid i’ch perfformiad fod yn un recordiad parhaus heb unrhyw olygu neu doriadau. Mae golygiadau yn dderbyniol ar gyfer cyflwyniad a deialog cloi yn unig.
- Ni ddisgwylir i chi logi offer recordio. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i’r fideo a’r sain fod o ‘ansawdd da’ ar gyfer cyflwyniadau. Derbynnir recordiadau o ffonau symudol.
- Os nad oes modd i chi gael gafael ar unrhyw ddyfais recordio, cysylltwch ag admissions@rwcmd.ac.uk i gael cyngor.
- Pan fo hynny’n bosibl, gwnewch yn siŵr bod y golau wedi’i gyfeirio o’r blaen neu’r ochrau. Er enghraifft, os ydych chi’n eistedd gyda ffenestr y tu cefn i chi fe fyddwch yn diflannu, a bydd y fideo’n ymddangos yn dywyll ac aneglur. Mae hi yr un mor bwysig ein bod yn gweld eich perfformiad yn ogystal â’i glywed.
- Cyn dechrau eich recordiad, gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o gof a bywyd yn y batri.
Sain
- Cyn gwneud eich recordiad, sicrhewch nad yw’r sain yn aflunio yn ystod y rhannau cryfaf, a chadwch bellter cyson o’ch dyfais recordio drwy gydol eich perfformiad.
- Gosodwch y ddyfais recordio yn agos i’ch offeryn, ond nid yn rhy agos. Arbrofwch gyda gwahanol bellteroedd er mwyn gweld beth sy’n gweithio orau i chi. Dechreuwch bump i chwe throedfedd i ffwrdd ac yna addasu. Bydd yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad a’r ddyfais recordio sy’n cael ei defnyddio.
- Gellir defnyddio offer recordio neu feicroffonau allanol ar gyfer iPhone/Android er mwyn helpu i wella ansawdd y sain, er nad yw’r rhain yn angenrheidiol.
- Recordiwch yn y man cywir. Ceisiwch gael cyn lleied â phosibl o sŵn cefndir. Meddyliwch am ba amser o’r dydd a’r lleoliad lle gallwch gael y mwyaf o reolaeth dros yr hyn sy’n digwydd yn y cefndir.
- Ystyriwch lle a phryd yr ydych yn gwneud y recordiad. Gall eich ystafell wely neu’r ystafell fyw weithio’n dda. Os oes gennych fynediad at ystafell seinglos mae hynny’n wych! Os nad oes, po feddalaf yr amgylchedd gorau oll. Mae sain yn bowndio oddi ar arwynebau caled a gall hyn greu atsain nad ydych am ei gael. Osgowch ystafelloedd mawr gwag. Yn eich cartref, mae blancedi, gobenyddion a llenni i gyd yn ffyrdd effeithiol o amsugno’r sain.
- Mae’n bwysig iawn i wneud ffug recordiad a gwrando ar y sain.
Rydym yn ymwybodol o’r heriau a gyflwynir gan gyflwyniadau wedi’u recordio a chyfarwyddir aelodau ein paneli i ganiatáu ar gyfer materion sydd y tu hwnt i reolaeth yr ymgeisydd pan fyddant yn gwylio ac yn asesu’r fideo. Nid yw’r rhestr ganlynol yn gyflawn ond mae’n dangos y math o bethau all gael eu heffeithio
arnynt drwy gyflwyniadau fideo, ac felly cânt eu cymryd i ystyriaeth:
- Oedi amser rhwng sain a llun
- Ansawdd sain offerynnol/lleisiol
- Piano sydd allan o diwn, neu ddim o ansawdd arbennig o dda (yn cynnwys defnydd o allweddellau trydan)
- Defnyddio offeryn modern ar gyfer ar gyfer repertoire hanesyddol
Os yw eich recordiad cerddorol gorau yn cynnwys mân darfu domestig (e.e. seiren yn y cefndir, rhywun yn cerdded heibio), mae’n bwysig eich bod yn gwybod y gall y panel anwybyddu hyn, felly peidiwch ag aberthu’r fersiwn honno.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Ein nod yw rhoi gwybod am benderfyniadau o fewn 3 wythnos i glyweliad. Rhoddir gwybod am bob penderfyniad yn dilyn clyweliadau drwy UCAS Conservatoires Track/Hub.