Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod)
Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod) yn CBCDC yw ‘Cam 3’ y cwricwlwm.
Mae’n fwyaf addas ar gyfer plant 8 i 15 oed y mae eu lefel mynediad fel a ganlyn
- tua Gradd 5 neu gyfwerth ar gyfer cantorion*, chwaraewyr chwythbrennau ac offerynnau pres ac offerynwyr taro
- Graddau 5 a 6 neu gyfwerth ar gyfer chwaraewyr llinynnau a phiano
*mae gwersi llais ar gael i ddysgwyr 11 oed a hŷn
Mae gwersi a dosbarthiadau’r Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod: Cam 3) yn bwrpasol, ysgogol, a phleserus ac wedi’u cynllunio i gefnogi eich nodau cerddorol personol. Mae ein dull llawn cefnogaeth yn ceisio adeiladu eich hyder a’ch hunangred a’ch rhoi ar lefel uwch yn eich teithiau cerddorol unigryw. Cyflwynir ein gwersi a’n dosbarthiadau mewn amgylchedd dysgu hwyliog a phwrpasol ar gyfer y celfyddydau perfformio. Yn hollbwysig, byddwch yn cael cyfleoedd i weithio gyda phobl ifanc eraill sydd â nodau tebyg i’ch rhai chi.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Manylion pellach:
Cynhelir gwersi a dosbarthiadau Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod: Cam 3) ar ddyddiau Sadwrn.
Ceir mynediad drwy gais, a rhaid iddo gynnwys cyflwyniad recordiad o chwarae neu ganu’r dysgwr.
Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymuno â’r Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod: Cam 3) ym mis Medi, ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Gall rhai dysgwyr hefyd ddechrau ym mis Ionawr neu fis Ebrill, yn amodol ar argaeledd hyfforddiant.
Mae’r Conservatoire Iau (rhan o ddiwrnod: Cam 3) yn costio £728 fesul tymor deg wythnos o fis Medi 2023 i fis Gorffennaf 2024. Mae gweithgareddau dewisol yn cynnwys
- dosbarth theori ABRSM a addysgir (£60 y tymor, 30 munud yr wythnos)
- astudiaeth ychwanegol (£295 y tymor, 30 munud yr wythnos)
- ymestyn eich prif astudiaeth (£147.50 y tymor am 15 munud ychwanegol yr wythnos)
Cymorth ariannol
Mae Cerddorion Ifanc CBCDC wedi ymrwymo i roi’r cyfle i gynifer o bobl ifanc â phosibl elwa gan yr hyfforddiant arbenigol a ddarperir gan CBCDC, waeth beth fo’u cefndir neu fodd ariannol.
Daw’r cylch ymgeisio am fwrsariaeth i ben yn y mis Gorffennaf cyn mynediad ym mis Medi. Cynghorir teuluoedd sydd â diddordeb mewn gwneud cais am fwrsariaeth ar ôl mis Gorffennaf ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod i gysylltu â ni i wirio a allai unrhyw gyllid sy’n weddill fod ar gael.