

Beth i'w bacio ar gyfer symud i'r DU
Paratowch i bacio ar gyfer y cam mawr o symud i Gaerdydd! Dyma ychydig o awgrymiadau am bethau i'w pacio.
Bagiau llaw
Prif fagiau
Cadw eich eiddo'n ddiogel
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cesys dillad cryf ac yn eu labelu â'ch enw a'ch cyfeiriad yng Nghaerdydd os ydych chi'n gwybod beth ydyw. Efallai y bydd angen i chi gerdded cryn bellter drwy'r maes awyr, felly gwnewch yn siŵr nad yw eich bagiau'n rhy drwm i chi eu cario am 10-15 munud. Gwnewch yn siŵr y gallwch chi godi eich bagiau llaw dros eich pen er mwyn gallu eu rhoi yn y lle storio uwchben y seddi ar yr awyren.
Peidiwch â dod ag eitemau gwerthfawr oni bai eu bod yn gwbl angenrheidiol. Dylech gael yswiriant ar eitemau gwerthfawr cyn i chi deithio a'u cadw yn eich bagiau llaw.
Cofiwch gadw copïau o rifau polisi yswiriant, pasbort, fisa ac ati mewn lle diogel ar wahân, rhag ofn iddyn nhw fynd ar goll neu gael eu dwyn. Gadewch gopïau gyda theulu neu ffrindiau hefyd, rhag ofn.
Peidiwch byth â gadael eich bagiau heb eu goruchwylio mewn maes awyr, gorsaf drenau neu orsaf fysiau neu'r ardaloedd o'u cwmpas. Os gwnewch chi, gallai eich eiddo gael eu dwyn neu eu dinistrio gan staff diogelwch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich ffôn symudol a dyfeisiau electronig eraill yn ddiogel, oherwydd gall dwyn ffonau fod yn broblem mewn meysydd awyr a gorsafoedd prysur.
Dolenni defnyddiol

Teithio i Gaerdydd

Gwybodaeth am fisâu
