Neidio i’r prif gynnwys

Gwybodaeth am fisâu

Os oes angen fisa arnoch i astudio yn y DU, dechreuwch drwy ymgyfarwyddo â gofynion Fisâu a Mewnfudo y DU cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn eich helpu i osgoi achosion posibl o oedi a sicrhau bod y broses ymgeisio yn fwy llyfn.

Ceisiadau Fisa Llwybr Myfyrwyr

Cewch ganllawiau manwl ar wefan GOV.UK i wneud cais am fisa o'ch gwlad gartref.

Y Gordal Iechyd Mewnfudo

Fel rhan o'ch cais am fisa, bydd angen i chi dalu'r Gordal Iechyd Mewnfudo er mwyn cael defnyddio Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) y DU. Y GIG yw system gofal iechyd y DU sydd wedi'i hariannu gan arian cyhoeddus. Mae'n darparu gwasanaethau meddygol hanfodol fel apwyntiadau meddyg, gofal ysbyty a thriniaethau brys.

Mae'r Gordal Iechyd Mewnfudo yn orfodol ac yn costio £776 y flwyddyn i fyfyrwyr. Mae'r swm fyddwch chi'n ei dalu yn dibynnu ar hyd eich fisa, nid hyd eich cwrs nac o ble rydych chi'n gwneud cais.

I gyfrifo eich Gordal Iechyd Mewnfudo, defnyddiwch yr offeryn swyddogol.

Gwybodaeth fisa fydd ei hangen arnoch i gofrestru yn CBCDC

Rhaid i bob myfyriwr rhyngwladol sydd â Fisa Llwybr Myfyrwyr ddarparu cod rhannu eu fisa, prawf o fynediad i mewn i'r DU (ar ôl dyddiad cychwyn y fisa) a phrawf adnabod (fel eich pasbort) wrth gofrestru.

Yn ychwanegol

Bydd hefyd angen i fyfyrwyr rhyngwladol sydd â chaniatâd i astudio yn y DU ar lwybr fisa gwahanol ddarparu cod rhannu eu fisa a chynnal gwiriad hawl i astudio gyda'r tîm Mewnfudo a Chyngor Rhyngwladol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC). Noder y bydd angen cynnal gwiriad hawl i astudio yn flynyddol.

Adnoddau defnyddiol ynghylch fisa a mewnfudo

Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol (IISA) – Mae CBCDC yn rhan o Brifysgol De Cymru, a phrif faes arbenigedd y Tîm Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol yw cyfraith a rheolau mewnfudo. Fe allan nhw gynnig cyngor a gwybodaeth arbenigol i fyfyrwyr rhyngwladol.

Cyngor y DU ar Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA) – Y wybodaeth ddiweddaraf am fewnfudo, ffioedd, cymorth i fyfyrwyr, gweithio a byw yn y DU i fyfyrwyr rhyngwladol presennol ac arfaethedig.

Y Swyddfa Gartref – Mae gwefan Swyddfa Gartref y DU yn rhoi gwybodaeth am reolaeth mewnfudo yn y DU, rheoliadau a chyfyngiadau ar weithio, a sut i wneud cais am estyniad i'ch fisa oddi mewn i'r DU.

Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu – Gwybodaeth ddefnyddiol gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, sydd hefyd yn darparu gwybodaeth gyswllt i lysgenadaethau'r DU ledled y byd.


Archwilio’r adran