

Iechyd ac yswiriant
Os ydych yn byw y tu allan i’r DU fel arfer, a’ch bod yma ar fisa am fwy na chwe mis, gallwch gofrestru gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Cofrestru gyda meddyg
Cymorth lles
Gofalu am eich iechyd meddwl a lles yw un o'r agweddau pwysicaf ar fywyd myfyriwr.
Mae gan y Coleg ei dîm pwrpasol ac arbenigol ei hun, sef Gwasanaethau Myfyrwyr. Maen nhw'n darparu cymorth a chyngor, ac yn gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr i'w grymuso i gyflawni eu potensial tra'n astudio yn CBCDC.
Mae yna rywun ar gael i siarad gyda nhw bob amser yn ystod oriau gwaith, felly os oes angen cymorth arnoch, neu os ydych eisiau sgwrs, galwch heibio i ddweud helô.
Myfyrwyr sydd ag anghenion penodol
Mae'r Coleg yn lle i ni ni i gyd, ac rydym yn gweithio gyda chi i greu amgylchedd sy'n croesawu ac yn cefnogi ein holl fyfyrwyr, waeth beth yw eu galluoedd, cefndiroedd neu wahaniaethau. Dylai pawb gael cyfle cyfartal i ddysgu a chyflawni eu potensial eu hunain.
Gwybodaeth ddefnyddiol

Byw dramor

Bancio a dyfeisiau symudol
