Neidio i’r prif gynnwys

Bancio a dyfeisiau symudol

Gallwch agor cyfrif banc yn y DU ar ôl i chi ymrestru ar eich cwrs. Efallai hefyd y bydd arnoch angen rhif ffôn symudol yn y DU er mwyn cael mynediad at rai gwasanaethau.

Sut ydw i'n agor cyfrif banc?

Gall gymryd rhai wythnosau i'ch cyfrif gael ei agor felly dylech wneud yn siŵr bod gennych chi fynediad at arian cyfred Prydain ar gyfer unrhyw gostau cychwynnol hyd nes bod eich cyfrif banc yn barod.

I agor cyfrif banc yn y DU fel myfyriwr rhyngwladol, mae angen i chi fod wedi ymrestru, a bydd angen i chi allu agor y cyfrif wyneb yn wyneb a darparu:

  • Pasbort
  • Prawf o statws mewnfudo (e.e. cod rhannu fisa).
  • Llythyr Cadarnhad Myfyriwr CBCDC. Bydd angen y llythyr hwn arnoch i agor cyfrif banc yn y DU. I'w lawrlwytho dilynwch y cyfarwyddiadau ar fewnrwyd y Coleg (yr Hwb).
  • Efallai y bydd rhai banciau yn gofyn am wybodaeth ychwanegol, felly dylech ofyn i'ch dewis fanc.

I gael rhagor o wybodaeth am agor cyfrif banc a rheoli eich arian fel myfyriwr rhyngwladol yn y DU, gallwch droi at yr adnoddau hyn:

Bancio a chyfrifon banc - Prifysgol De Cymru

Arweiniad i agor cyfrif banc - UKCISA

Cael rhif ffôn yn y DU

Os ydych chi'n symud i'r DU am y tro cyntaf, efallai y bydd angen rhif ffôn symudol yn y DU arnoch er mwyn derbyn gwasanaethau dydd i ddydd, fel cofrestru gyda meddyg teulu, ymwneud â gwasanaethau'r GIG a siopa ar-lein. Efallai hefyd y bydd rhai banciau yn gofyn am rhif ffôn yn y DU er mwyn i chi agor cyfrif banc.

Cymerwch olwg am daliadau trawsrwydweithio rhyngwladol os ydych yn bwriadu defnyddio eich cerdyn SIM presennol dros dro.

SIM deuol
Mae ffôn SIM deuol yn caniatáu i chi ddefnyddio SIM o'r DU ochr yn ogystal â'ch rhif o'ch gwlad gartref.

Cael gafael ar SIM yn y DU
Mae rhai darparwyr, fel GiffGaff, yn anfon cardiau SIM wedi'u rhagdalu yn rhyngwladol. Mae cardiau SIM hefyd ar gael mewn archfarchnadoedd a siopau ffonau symudol ar ôl i chi gyrraedd. Nid ydym yn argymell darparwyr penodol, felly dewiswch yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

Cerdyn SIM talu wrth ddefnyddio
Mae opsiynau talu wrth ddefnyddio yn gadael i dalu ymlaen llaw a gwneud taliadau ychwanegol am alwadau, negeseuon testun a data neu fe allwch chi ddewis cynlluniau misol hyblyg. Gallwch gymharu opsiynau ar wefannau fel MoneySavingExpert.

eSIM (SIM digidol)
Mae eSIM yn fersiwn digidol o gerdyn SIM ffisegol. Gwiriwch gyda'ch darparwr ffôn symudol i weld a ydyn nhw'n cynnig cynlluniau eSIM. Mae'n bosibl defnyddio eSIM ar lawer o ddyfeisiau mwy newydd a gallwch osod un drwy god QR neu ap gan eich darparwr.

Wi-Fi am ddim
Gallwch arbed ar gostau data drwy ddefnyddio Wi-Fi cyhoeddus am ddim, sydd ar gael mewn llawer o leoliadau yn y DU.


Adran archwilio