

Cynaliadwyedd a byw’n wyrdd
Mae Cymru fel gwlad yn cymryd cynaliadwyedd o ddifri. Ar hyn o bryd mae Caerdydd yn un o’r 10 dinas wyrddaf yn y DU, ac yn un o’r 3 dinas sy’n cynhyrchu’r swm lleiaf o wastraff, felly mae’n chwarae rhan amlwg wrth i ni anelu tuag at ddyfodol gwyrddach.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau. Datganodd Cyngor Caerdydd ein bod mewn Argyfwng Hinsawdd ym mis Mawrth 2019 ac mae’n gweithio i geisio bod yn ddinas garbon niwtral erbyn 2030.
Cynaliadwyedd yn y Coleg
Rydym yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd byd-eang ac yn ymuno â nifer o sefydliadau ledled y byd sy’n galw am weithredu ar frys i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Ar draws cymuned CBCDC, rydym yn gweithio’n galed i gyrraedd carbon sero cyn gynted ag y gallwn. Rydym yn cymryd camau breision i sicrhau bod ein harferion, ein perfformiadau a’n polisïau yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Mae’r Grŵp Cynaliadwyedd yn y Coleg yn cwrdd yn rheolaidd, ac mae cydweithwyr yn rhannu’r ymdrechion mae eu timau yn eu gwneud i leihau ein hôl troed carbon.
Myfyrwyr cynaliadwy
Mae byw ac astudio yng Nghaerdydd yn cynnig digonedd o gyfleoedd i fabwysiadu ffordd fwy cynaliadwy o fyw. Drwy wneud dewisiadau ymwybodol, gallwch leihau eich effaith ar yr amgylchedd tra’n gwella eich profiad fel myfyriwr. O ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau beicio rhagorol Caerdydd i siopa’n lleol a chefnogi busnesau annibynnol, gallwch gyfrannu tuag at ymdrechion cynaliadwyedd y ddinas. Dyma sut y gallwch gymryd rhan a chael effaith gadarnhaol.
Gwybodaeth ddefnyddiol

Canllaw i Gaerdydd

Cadw'n ddiogel
