Neidio i’r prif gynnwys

O CBCDC i’r National Theatre: Sut y gwnaeth Ysgoloriaeth Jackie Skarvellis baratoi'r ffordd i Liam Prince-Donnelly

Liam Prince-Donnelly, cyn-fyfyriwr â gradd mewn Actio, oedd y cyntaf i dderbyn Ysgoloriaeth Jackie Skarvellis, cronfa a sefydlwyd drwy gymynrodd gan Jackie – un o raddedigion y Coleg ei hun, yn ddramodydd, actor a chantores, ac un a wnaeth ymroi i hyrwyddo’r celfyddydau. 

Dyma Liam yn rhannu ei stori bersonol a sut y gwnaeth yr ysgoloriaeth ei gefnogi o’i hyfforddiant i berfformio yn y National Theatre.

Ysgoloriaeth Jackie Skarvellis

‘Pan ymunais â Choleg Brenhinol Cymru, roeddwn i’n llawn cyffro ac uchelgais, ond roedd gen i hefyd gryn bryder am yr heriau o fy mlaen. Cododd pryderon ariannol sylweddol yn sgil symud i ddinas newydd a bwrw i addysg amser llawn. Dyna pryd y daeth Ysgoloriaeth Jackie Skarvellis i fy mywyd. Sefydlwyd yr ysgoloriaeth i helpu myfyrwyr fel fi i gael mynediad at yr hyfforddiant arbenigol yma waeth beth fo'r rhwystrau ariannol. Roedd Jackie yn rhywun a oedd wedi elwa o astudio yma ei hun ac eisiau helpu eraill ar ôl ei dyddiau hi. 

Roedd yr ysgoloriaeth fel achubiaeth – gwnaeth fy ngalluogi i ganolbwyntio'n llawn ar fy hyfforddiant heb boeni'n barhaus am bwysau ariannol, gan leddfu'r pryder o symud i ddinas newydd a dechrau ar fy addysg.’

Effaith yr Ysgoloriaeth

‘I mi, roedd Ysgoloriaeth Jackie Skarvellis yn fwy na chymorth ariannol yn unig – roedd yn hwb i fy hyder. Roedd gwybod bod rhywun yn credu ddigon yn fy mhotensial i fuddsoddi yn fy addysg yn hynod o rymusol. Fe wnaeth fy ysgogi i weithio'n galetach a manteisio’n llawn ar bob cyfle a ddaeth i fy rhan.'
Liam Prince-Donnelly

'Drwy gydol fy amser yn y Coleg, roeddwn yn gallu ymgolli yn fy astudiaethau, cymryd rhan mewn cynyrchiadau amrywiol, a mireinio fy nghrefft dan arweiniad mentoriaid eithriadol. Rhoddodd yr ysgoloriaeth fynediad i mi at adnoddau a phrofiadau a oedd yn hollbwysig wrth lunio fy sgiliau a gosod y sylfaen ar gyfer fy ngyrfa.’

O CBCDC i’r National Theatre

‘Mater o ddechrau ar daith gyffrous oedd graddio o CBCDC. Fe wnaeth yr hyfforddiant a’r gefnogaeth a gefais yn ystod fy amser yn y Coleg baratoi’r ffordd ar gyfer fy ngyrfa broffesiynol. Ers graddio, rwy'n falch o fod eisoes wedi gweithio gyda'r National Theatre a'r BBC – dwy garreg filltir yn fy ngyrfa a oedd yn ymddangos fel breuddwyd bell ar un adeg.’

Liam Prince-Donnelly yn y Theatr Genedlaethol gyda chast a chriw ‘London Tide’

Trawsnewid bywydau

‘Wrth feddwl yn ôl am bopeth rwy wedi’i gyflawni, rwy’n teimlo’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a wnaeth fy rhoi ar ben ffordd ac am waddol Jackie Skarvellis. 

Mae'n ffordd i’n hatgoffa mor drawsnewidiol y gall ysgoloriaethau fod i ddarpar artistiaid. Rwy wedi gweld â fy llygaid fy hun sut y gall cyfraniadau o'r fath agor drysau a helpu myfyrwyr i wireddu eu breuddwydion, yn union fel y gwnaeth rhodd Jackie fy helpu i wireddu fy mreuddwyd i.'

'Rwy’n hynod ddiolchgar i Jackie Skarvellis am ei haelioni a’i chred yn y genhedlaeth nesaf o artistiaid. Mae ei gwaddol yn parhau trwy gyflawniadau pob derbynnydd, ac mae'n anrhydedd i mi gael bod yn rhan o'r gwaddol hwnnw.’
Liam Prince-Donnelly

Archwilio’r adran