

Sut i ymgeisio – Actio a Theatr Gerddorol
Popeth sydd angen i chi wybod am wneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Sut i ymgeisio
I gael mynediad i gwrs mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire a chadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein. Mae yna ffi untro o £28.50 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.
I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.
Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 ac mae Cod y Cwrs i'w weld ar dudalen y cwrs.
Wrth wneud cais drwy UCAS Conservatoires, bydd yn ofynnol i chi ddewis prif arbenigedd/disgyblaeth. Edrychwch ar y tabl i weld beth mae angen i chi ei ddewis.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am glyweliadau ar ein tudalennau clyweliad.
Cwrs | MA Rheolaeth yn y Celfyddydau |
---|---|
Prif arbenigedd/disgyblaeth | Cynhyrchu drama |
Chod y cwrs | 705F (llawn amser); 700P (rhan amser) |
Cwrs | BA Actio |
---|---|
Prif arbenigedd/disgyblaeth | Perfformio drama |
Chod y cwrs | 200F |
Cwrs | MA Actio ar gyfer y Llwyfan, Sgrin a Chyfryngau Recordiedig |
---|---|
Prif arbenigedd/disgyblaeth | Perfformio drama |
Chod y cwrs | 704F |
Cwrs | BA Theatr Gerddorol |
---|---|
Prif arbenigedd/disgyblaeth | Theatr Gerddorol |
Chod y cwrs | RW02 |
Cwrs | MA Theatr Gerddorol |
---|---|
Prif arbenigedd/disgyblaeth | Theatr Gerddorol |
Chod y cwrs | 713F |
- Yn eich cais, gofynnir i chi am fanylion eich canolwr ‘ymarferol/cerddoriaeth’. Llythyr geirda yw hwn, wedi’i ysgrifennu gan eich athro/darlithydd drama, pennaeth adran, neu unrhyw unigolyn priodol arall a all wneud sylwadau ar eich galluoedd perfformio ar actio.
- Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich datganiad personol ar eich ffurflen gais, er mwyn rhoi darlun mor glir â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a’ch rhesymau dros wneud cais.
- Mae yna ffi clyweliad o £35 ar gyfer y gost o drefnu a darparu clyweliadau.
- Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i hyfforddiant ar gyfer y myfyrwyr mwyaf talentog, waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa ariannol. Nod ein polisi hepgor ffioedd yw cynorthwyo ymgeiswyr y gall eu hamgylchiadau ariannol eu rhwystro rhag cael clyweliad.
Dyddiadau ar gyfer gwneud cais
Cwrs | MA Rheolaeth yn y Celfyddydau |
---|---|
Ceisiadau’n agor | 10 Gorffennaf 2024 |
Ceisiadau’n cau | Rydym yn cynghori’n gryf eich bod yn gwneud cais cyn diwedd mis Mawrth 2025. Byddwn yn parhau i dderbyn ceisiadau am y cwrs hwn cyhyd ag y bydd llefydd gwag ar gael. |
Cwrs | BA Actio |
---|---|
Ceisiadau’n agor | 10 Gorffennaf 2024 |
Ceisiadau’n cau | 29 Ionawr 2025 |
Cwrs | MA Actio ar gyfer y Llwyfan, Sgrin a Chyfryngau Recordiedig |
---|---|
Ceisiadau’n agor | 10 Gorffennaf 2024 |
Ceisiadau’n cau | Mawrth 25 2025 |
Cwrs | BA Theatr Gerddorol |
---|---|
Ceisiadau’n agor | 10 Gorffennaf 2024 |
Ceisiadau’n cau | 29 Ionawr 2025 |
Cwrs | MA Theatr Gerddorol |
---|---|
Ceisiadau’n agor | 10 Gorffennaf 2024 |
Ceisiadau’n cau | Mawrth 1 2025 |
Cyrsiau

BA (Anrh) Actio

BA (Anrh) Theatr Gerddorol

MA Actio ar gyfer Llwyfan, Sgrin a Chyfryngau Recordiedig

MA Theatr Gerddorol
