Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Drama

UCAN: ZOO Story

  • Trosolwg

    Sad 11 Ion 2025 7.15pm

  • Lleoliad

    Theatr Bute

  • Prisiau

    £8-£12

Tocynnau: £8-£12

Lleoliad: Theatr Bute

Gwybodaeth

Parc yng Nghaerdydd ar brynhawn Sul yn yr Haf. Yn eistedd ar fainc, yn darllen llyfr, mae Peter, dyn 40 oed wedi’i wisgo mewn brethyn a sbectol ag ymylon corn ar ei drwyn. Er ei fod yn agosáu at ganol oed, mae ei wisg a’i ystum yn awgrymu dyn iau. Mae’n stopio darllen, yn glanhau ei sbectol ac, wrth iddo ailddechrau darllen, mae Jerry yn ymddangos ...

Peidiwch â cholli sesiwn holi ac ateb byr ar ôl y sioe, yn canolbwyntio ar fannau ymarfer hygyrch ar gyfer pobl â nam ar eu golwg, manteision gwaith cynhwysol, a sut mae UCAN yn hybu hyder pobl ifanc trwy berfformiad.

Gan Edward Albee
Yn cynnwys Jake Sawyers a Taylor Martin
Wedi'i addasu a chyfarwyddo gan Bernard Latham

Cynhyrchiad UCAN wedi’i addasu mewn partneriaeth â Craidd.

Elusen celfyddydau perfformio ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion dall neu rannol yw UCAN Productions www.ucanproductions.org

Digwyddiadau eraill cyn bo hir