Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Dathliad Blwyddyn Newydd: Cerddorfa WNO

Tocynnau: £20-£22

Croesawu 2025 gydag ysblander clasurol

Bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn llenwi’r awyr â waltsiau penigamp, polcas sionc, a’r holl glasuron y byddech chi’n disgwyl eu mwynhau yn nehongliad ardderchog y WNO o gyngherddau Blwyddyn Newydd traddodiadol Fienna.

Bydd y cyngerdd hwn yn cynnwys ffefrynnau fel Josef Strauss a Johann Strauss II, ac yn llawn enghreifftiau o gerddoriaeth Fienna ar ei gorau.

Dan gyfarwyddyd Arweinydd Cerddorfa’r WNO a’r Cyngerdd-feistr David Adams, bydd Artistiaid Cyswllt diweddaraf y WNO yn ymuno â Cherddorfa WNO.

Eisteddwch yn ôl ac ymgollwch yn y cyngerdd egnïol hwn o’r ffefrynnau clasurol a rhoi’r dechrau gorau i 2025 gyda Chyngerdd WNO.

Y cynnwys:

Johann Strauss II Die Fledermaus Overture
Josef Strauss Die Libelle (The Dragonfly) Polka-Mazurka
Eduard Strauss Ohne Bremse (Without Brakes) Polka
Josef Strauss Delirien (Delirium)Waltz
Dvořák Slavonic Dance No 1 C Major
Dvořák Carnival Overture
Johann Strauss II Egyptischer March
Brahms Hungarian Dance No 4
Johann Strauss II Bei uns z'Haus (At Home) Waltz
Johann Strauss II Tritsch-Tratsch (Chit-Chat) Polka

Digwyddiadau eraill cyn bo hir