Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Theatr Gerddorol

Les Misérables (Ysgol Berfformio Kinetic)

Digwyddiad o'r gorffennol: Mae hwn yn ddigwyddiad o'r gorffennol.

Gwybodaeth

Mae Ysgol Berfformio Kinetic yn edrych ymlaen yn arw at berfformio Les Misérables. Mae’r gwir glasur modern yma yn seiliedig ar nofel Victor Hugo ac yn cynnwys un o’r sgorau mwyaf cofiadwy erioed. Yn Ffrainc yn y 19eg ganrif, mae Jean Valjean yn cael ei ryddhau o 19 mlynedd o garchar anghyfiawn, ond nid yw'n canfod unrhyw beth ar ei gyfer ond drwgdybiaeth a chamdriniaeth. Mae’n torri ei barôl yn y gobaith o ddechrau bywyd newydd, gan gychwyn brwydr gydol oes am achubiaeth wrth iddo gael ei erlid yn ddi-baid gan yr arolygydd heddlu Javert, sy’n gwrthod credu y gall Valjean newid ei ffordd. Yn y diwedd, yn ystod gwrthryfel myfyrwyr Paris ym 1832, rhaid i Javert wynebu ei ddelfrydau ar ôl i Valjean arbed ei fywyd ac achub bywyd y myfyriwr chwyldroadol sydd wedi dal calon merch fabwysiedig Valjean. Â’i fyd-olwg wedi chwalu, mae Javert yn cyflawni hunanladdiad, ac mae Valjean o'r diwedd yn sicrhau'r heddwch y mae wedi'i geisio cyhyd.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir