Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Band Pres Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: Dawnsfeydd Offerynnau Pres

Tocynnau: £8

Gwybodaeth

O’r oes hynafol hyd heddiw, mae cerddoriaeth a dawns wedi cipio ysbryd y ddynoliaeth. Mae cyngerdd heddiw yn arddangos tri chyfansoddwr cyferbyniol: Malcolm Arnold, Hans Werner Henze, ac Edward Gregson. Mae'r Four Scottish Dances gan Arnold, a gyfansoddwyd yn 1957, wedi cael ei ysbrydoli gan ddawnsfeydd gwerin traddodiadol yr Alban. Cafodd Ragtimes & Habaneras gan Henze, a ysgrifennwyd yn 1976, ei berfformio’n enwog gan Fand Glofa Grimethorpe ym Mhroms y BBC yr un flwyddyn. Yn olaf, mae Dawnsfeydd ac Arias Gregson yn cyfuno dawnsfeydd bywiog ac egnïol gydag alawon bywiog a synfyfyriol, gan gloi’r cyngerdd mewn modd cyffrous.

Malcolm Arnold Four Scottish Dances (0p.59)

Hans Werner Henze Ragtimes and Habaneras*

Edward Gregson Dances and Arias

Dr Robert Childs arweinydd

*Kieran Booker arweinydd

Digwyddiadau eraill cyn bo hir