Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Pan Ddaw’r Nos: Noson o gân gyda Syr Bryn Terfel

Tocynnau: £23 - £25

About

Noson o gân yng nghwmni Syr Bryn Terfel yn cynnwys myfyrwyr lleisiol CBCDC.

Mae Pan Ddaw’r Nos yn un o ganeuon enwocaf a mwyaf poblogaidd Merion Williams. Felly, wrth i nosweithiau mis Tachwedd ymestyn, ymunwch â ni am noson arbennig iawn wedi’i chyflwyno gan ein myfyrwyr gydag Is-lywydd CBCDC Syr Bryn Terfel. 

Gan roi sylw i gynnyrch rhyfeddol Merion Williams, un o gyfansoddwyr amlycaf Cymru’r ugeinfed ganrif, bydd y cyngerdd yn benllanw prosiect pan fydd Bryn yn arwain y genhedlaeth nesaf o artistiaid llais i ddehongli a chyfathrebu barddoniaeth a cherddoriaeth Cymru.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir