Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Debasmita Bhattacharya & Gurdain Rayatt

Tocynnau: £8 - £16

Gwybodaeth

Mae’r chwaraewraig sarod nefolaidd ifanc yn esiampl o ddisgleirdeb cerddorol ym myd cerddoriaeth glasurol India. Mae ei hymrwymiad diwyro i sicrhau rhagoriaeth gerddorol wedi ei harwain i feistroli cywreinrwydd yr offeryn traddodiadol hwn. Mae ei hyblygrwydd a’i gallu i asio traddodiadau clasurol a mynegiant cyfoes yn llyfn yn creu perfformiadau sy’n cyffroi’r enaid ac wedi’i gwneud yn artist y mae galw mawr amdani ar y llwyfan byd-eang. Cyflwynir ar y cyd ag Asian Arts Agency.

Yn ymuno â Debasmita ar gyfer y cyngerdd hwn fydd un o brif chwaraewyr ac athrawon tabla y DU ac Ewrop, Gurdian Singh Rayatt. Wedi’i eni a’i fagu yn y DU, mae Rayatt wedi perfformio’n rhyngwladol gyda cherddorion clasurol Indiaidd o fri ac mae wedi bod yn rhan o brosiectau byd/trawsgroesi ac ymasiad sy’n rhychwantu sawl genre.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir