Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Catrin Finch & Aoife Ní Bhriain

Tocynnau: £20 - £22

Mae Finch a Ní Bhriain yn creu deialog gerddorol swynol lle mae elfennau traddodiadol a chyfoes yn dod at ei gilydd mewn dathliad syfrdanol o gydweithrediad cerddorol, gan dywys gwrandawyr ar daith hudolus ar adenydd y gwenyn ar draws Môr Iwerddon, wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliannau eu dwy wlad enedigol.

Mae Catrin Finch wedi llunio gyrfa glasurol drawiadol ac wedi mentro i dir cerddorol newydd, yn fwyaf nodedig trwy ei chydweithrediadau rhyngwladol gwobrwyedig gyda Seckou Keita a Cimarrón. Mae Aoife Ní Bhriain, sy’n hanu o Ddulyn, yn un o ffidlwyr traddodiadol mwyaf blaenllaw Iwerddon sy’n feistrolgar ym maes cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth ei threftadaeth draddodiadol Wyddelig.

Mae eu halbwm debut Double You wedi cyrraedd rhif un yn Siartiau Clasurol iTunes a Siartiau Cerddoriaeth y Byd Ewrop, rhif dau yn Siartiau Cerddoriaeth Byd Transglobal, a derbyniodd enwebiadau ar gyfer yr ‘Albwm Gorau’ yn 6ed Gwobrau Gwerin Radio 1 RTÉ, ac ‘Albwm Gorau Ewrop’ yng Ngwobrau Cerddoriaeth Songlines 2024.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir