MA Jazz
Dyfarniad:
MA Jazz
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
21 Medi 2025
Hyd:
2 flynedd llawn amser
Cod y cwrs:
710F - UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Cyfle i hyfforddi ochr yn ochr â rhai o gerddorion jazz gorau’r DU ar y cwrs arloesol hwn sy’n cynnig hyfforddiant un i un, hyfforddiant ensemble a nifer o gyfleoedd i berfformio.
Trosolwg o’r cwrs
Ewch â’ch celfyddyd i lefel uwch ar ein cwrs sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol gyda gweithwyr proffesiynol adnabyddus yn y diwydiant, hyfforddiant datblygu gyrfa a chyfleoedd perfformio proffesiynol ac yn y Coleg.
Mae eich hyfforddiant yn cynnwys gwersi un i un gyda rhai o gerddorion jazz gorau’r DU, yn ogystal â dosbarthiadau uwch mewn paratoi cerddoriaeth, dosbarthiadau gwrando a dadansoddi arbenigol a hyfforddiant ensemble proffesiynol.
Gallwch astudio unrhyw un o’r offerynnau hyn fel rhan o’ch cwrs:
- Bas
- Drymiau
- Ffliwt
- Gitâr
- Telyn
- Piano
- Sacsoffon
- Trombôn
- Trwmped
- Llais
Gallwch roi eich sgiliau ar waith drwy berfformio yn y dosbarth neu fel rhan o’r amserlen brysur o ddigwyddiadau a gynhelir bob blwyddyn – fel y sesiynau wythnosol JazzTime sy’n cael eu harwain gan fyfyrwyr a’n gŵyl jazz yn yr haf.
Diolch i’n cysylltiadau cryf â cherddorion jazz lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, mae cyfleoedd i berfformio mewn gwyliau ac ar deithiau proffesiynol hefyd ar gael i chi fel myfyriwr yma.
Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn datblygu eich arbenigedd technegol a’ch sgiliau creadigol, dehongli a byrfyfyrio i fod yn artist cerddorol unigryw ac yn awdurdod aeddfed o ran arddull.
Geirdaon
Pam astudio’r cwrs hwn?
- Er mwyn eich paratoi ar gyfer bywyd proffesiynol, bydd eich hyfforddiant yn drwyadl ac yn gynhwysfawr – mae’n cynnwys cymysgedd o wersi un i un (a elwir yn ‘brif astudiaeth’), darlithoedd, seminarau, gwaith ensemble, dosbarthiadau perfformio, dosbarthiadau meistr a dosbarthiadau sgiliau technegol.
- Bydd gennych ddosbarthiadau paratoi cerddoriaeth – gan gynnwys cyfansoddi a threfnu – yn ogystal â dosbarthiadau gwrando a dadansoddi arbenigol, fel trawsgrifio jazz ac ysgrifennu beirniadol. Mae hyfforddiant mewn dadansoddi perfformiadau a chyflwyno hefyd yn rhan o’ch astudiaeth.
- Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys rhai o brif artistiaid jazz y DU - pob un ohonynt yn gyfansoddwyr jazz cyfoes ac yn offerynwyr/lleiswyr adnabyddus. Maent yn cynnig addysg unigol o’r radd flaenaf i chi, yn ogystal â hyfforddiant ensemble, addysgu mewn grŵp, mentora a chyfleoedd rhwydweithio.
- Yn eich dosbarthiadau perfformio, byddwch yn cael adborth adeiladol gan eich tiwtoriaid a’ch cyd-fyfyrwyr – ac mae’r adborth llafar hwn yn hanfodol i’ch datblygiad fel artist.
- Rydym yn rhan annatod o’r sîn jazz lleol, rhanbarthol a chenedlaethol (sy’n cynnwys darparwyr addysgol). Mae ein cysylltiadau â’r diwydiant yn sail i’n hyfforddiant, gan wneud yn siŵr ei fod yn addas i’r diben, ac arwain at gyfleoedd perfformio a lleoliadau i’n myfyrwyr.
- Bob blwyddyn, bydd artistiaid adnabyddus o bob cwr o’r byd yn ymweld â’r Coleg i berfformio – ond byddant hefyd yn cynnal dosbarthiadau meistr gyda’n myfyrwyr, gan roi cipolwg iddynt ar y diwydiant ac arweiniad ar ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
- Byddwch yn cael dosbarthiadau mewn datblygu gyrfa, hyrwyddo eich hun a rheoli digwyddiadau, gan helpu i’ch gwneud yn gerddor mwy cyflogadwy.
- Mae gennych y dewis i ymgymryd â phrosiect galwedigaethol hunangyfeiriol sy'n seiliedig ar eich diddordebau, a fydd yn ehangu eich sgiliau a'ch profiad proffesiynol.
Gwybodaeth arall am y cwrs
Cyflwyniad i'r adran jazz gyda Phennaeth yr Adran, Andrew Bain
Gwybod mwy am yr adran
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy