Trosolwg
Mae cysylltu â chymunedau yn rhan ganolog o ethos CBCDC. Gan fanteisio ar ddoniau a chreadigrwydd ein myfyrwyr, rydym yn datblygu gwaith newydd gydag amrywiaeth eang o bartneriaid cymunedol.
Mae ein hadnodd addysgol newydd sbon ar gyfer athrawon yn cynnwys cyfweliadau unigryw gydag aelodau allweddol o gast a thîm creadigol ein cynhyrchiad diweddar o ‘Macbeth’ William Shakespeare.
Gyda recordiad unigryw o’r ddrama, mae’r perfformiad anhygoel hwn gan Goleg Brenhinol Cymru i’w weld ar-lein am y tro cyntaf. Mae’r myfyrwyr dawnus sy'n rhan o'r cynhyrchiad hwn yn rhannu eu canfyddiadau a'u safbwyntiau am y broses greadigol, y broses o ddatblygu eu cymeriadau, a'u perfformiadau mewn cyfweliad estynedig.
Mae cwestiynau’r cyfweliadau wedi cael eu llunio’n ofalus yn unol â manyleb TGAU Drama CBAC, ac yn sicrhau profiad perthnasol a chyfoethog i ddisgyblion ac athrawon.