Mark Bassey
Tiwtor Trombôn
Rôl y swydd: Hyfforddwr Llais, Tiwtor Opera
Adran: Llais
Anrhydeddau: BMus (Anrh), DipABRSM, ARWCMD
Yn wreiddiol o Lundain, dechreuodd Nicola ar ei hyfforddiant cerddorol fel un o’r aelodau a sefydlodd côr y merched yn Eglwys Gadeiriol Caersallog. Astudiodd y piano yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle y derbyniodd amryw wobrau ac aeth ymlaen i weithio yno fel Cymrawd Iau cyn cwblhau ei hastudiaethau yn y National Opera Studio yn Llundain.
Mae gan Nicola angerdd at addysg, allgymorth a gwaith cymunedol a bu’n gweithio fel pianydd ac arweinydd gweithdy i Opera Cenedlaethol Cymru, The Royal Opera House, Garsington Opera, English National Opera, Longborough Festival Opera ac Opera Holland Park.
Ers 2011, gweithiodd Nicola fel pianydd ac Arweinydd Cerdd i The Forget-Me-Not Chorus, elusen Gymreig sy’n cyflwyno llawenydd canu i bobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n eu cefnogi. Mae’n gyn-aelod o gynllun ‘Live Music Now!’, Yehudi Menuin, ac yn aelod presennol o Lost Chord. Mae’r ddwy elusen yn mynd â cherddoriaeth i’r gymuned, i’r rhai sydd heb gymaint o gyfleoedd i brofi cerddoriaeth fyw, ac maen nhw’n ymroi i drawsnewid bywydau pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd drwy bŵer cerddoriaeth.
Mae’n gweithio’n rheolaidd fel pianydd i Opera Cenedlaethol Cymru, Longborough Festival Opera, Music Theatre Wales, Barefoot Opera a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, a bu’n gweithio fel hyfforddwr llais i Ysgol Haf Opera’r Eidal yn ne’r Eidal, Gŵyl Haf Indemini yn y Swistir a’r Oxenfoord International Summer School.
A hithau’n seiliedig yng Nghaerdydd, mae Nicola yn falch iawn o fod yn aelod o’r staff addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac University Centre Weston lle mae’n gweithio ar eu cwrs Theatr Gerddorol. Mae hefyd yn mwynhau gyrfa lawrydd fel hyfforddwr llais, Meistr Corws, cyfeilydd a répétiteur ledled y Deyrnas Unedig.
Yn 2018, derbyniodd Nicola glod nodedig am ei gwaith fel Cyfarwyddwr Cerdd ar gynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o Rhondda Rips it Up!, gwaith newydd wedi’i gomisiynu gan Elena Langer ac Emma Jenkins. Wedi’i ysgrifennu ar gyfer corws merched Opera Cenedlaethol Cymru, Lesley Garrett a 50 o aelodau benywaidd y Corws Cymunedol, mae’r darn pwerus hwn yn adrodd hanes Margaret Mackworth, un o swffragetiaid amlycaf Cymru.
Mae Nicola yn Aelod Cyswllt o CBCDC ers 2022.