Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Itamar Rashkovsky

Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad byr

Dechreuodd Itamar Rashkovsky chwarae'r ffidil o dan arweiniad Natasha Boyarsky o Ysgol Yehudi Menuhin. Cafodd ei dderbyn i Adran Iau’r Coleg Cerdd Brenhinol yn 10 oed, lle parhaodd i astudio gyda'r Athro Boyarsky ar ysgoloriaeth lawn a ariannwyd yn hael gan Sefydliad Tsukanov.

Arbenigedd

Ac yntau’n addysgwr angerddol, mae Itamar yn dal swyddi addysgu yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall (Adran Iau) ac ar Gwrs Meistr a Gwyliau Rhyngwladol ‘New Virtuosi’, lle mae’n Arweinydd y Rhaglen Gwrandawyr. Mae ei fyfyrwyr wedi mwynhau nifer o lwyddiannau o dan ei adain ac wedi mynd ymlaen i ennill gwobrau mewn cystadlaethau domestig a rhyngwladol a chael ysgoloriaethau mewn conservatoires blaenllaw yn y DU ac UDA.

Drwy gydol ei yrfa, mae Itamar wedi perfformio yn y DU, UDA, Rwsia, yr Almaen, Ffrainc, yr Eidal, Israel, Croatia, a Slofenia mewn ystod o leoliadau mwyaf mawreddog y byd, gan gynnwys Neuadd Carnegie, y Royal Albert Hall, Neuadd Cadogan, a Thŷ Opera Israel. O ran cystadlaethau, dyfarnwyd y wobr gyntaf i Itamar yng Nghystadleuaeth Goffa Gordon Turner ac yng Nghystadleuaeth Concerto Peter Morrison yn y Coleg Cerdd Brenhinol (Adran Iau). O ran gwobrau rhyngwladol, mae wedi cyrraedd y rownd derfynol ac wedi bod yn gerddor llawryfog mewn nifer o gystadlaethau, gan gynnwys Cystadleuaeth Ryngwladol Kloster Schöntal i’r Ffidil yn yr Almaen, a Chystadleuaeth Ryngwladol Enkor i’r Piano a’r Ffidil.

Graddiodd Itamar o Brifysgol Manceinion gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Yn ystod ei astudiaethau, enillodd Gystadleuaeth Concerto Prifysgol Manceinion ddwy flynedd yn olynol, a bu’n gyfrifol am gyd-sefydlu a chyfarwyddo Cystadleuaeth Cerddoriaeth Ryngwladol Sêr Newydd (New Stars).

Proffiliau staff eraill