DigwyddiadGolygfeydd Opera IIEin myfyrwyr blwyddyn gyntaf gradd meistr yn rhannu’n anffurfiol set o olygfeydd operatig, yn amrywio o glasuron adnabyddus i drysorau a berfformir yn anaml.
Digwyddiad'The Ruin' gan Elliot GalvinMae Elliot Galvin yn arloeswr hir-sefydledig ym myd jazz y DU gyda phedwar albwm unigol - mae'n dod â cherddoriaeth o'i recordiad newydd 'The Ruin' i CBCDC, sy'n cynnwys lleisiau byrhoedlog, offerynnau taro sy’n dwyllodrus drwm o grŵf, a byrfyfyriadau ffliwt cywrain a llawn enaid.
DigwyddiadCerddoriaeth ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y MenywodMewn digwyddiad sy’n rhoi cyfansoddwyr a cherddorion benywaidd yn flaenllaw, ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
DigwyddiadPianyddion CBCDCPianyddion CBCDC yn cyflwyno detholiad o ddanteithion adnabyddus o’r repertoire. Ymunwch â ni am gyngerdd o gerddoriaeth ogoneddus wrth i ni ddathlu gwaith trawiadol ein myfyrwyr.
DigwyddiadCôr Sacsoffon CBCDCCyngerdd bywiog a ffres o gerddoriaeth newydd gyffrous ar gyfer sacsoffonau gydag Ensemble Sacsoffon CBCDC, dan gyfarwyddyd Gerard McChrystal yn dathlu nid yn unig cyfansoddwyr byw, ond cerddoriaeth a threfniannau gan fyfyrwyr presennol CBCDC.
DigwyddiadY Sioe Gelf WisgadwyMae ein sioe ffasiynau avant-garde boblogaidd yn dychwelyd gyda chymeriadau wedi’u hadeiladu o sgrap a deunyddiau wedi’u hailgylchu. Perfformiad unigryw o ddawns, golau a cherddoriaeth.
DigwyddiadAmélie: The MusicalMae Amélie yn fenyw ifanc hynod sy’n byw’n dawel yn y byd ond yn uchel ei meddwl. Yn dawel bach ac yn fyrfyfyr mae’n cyflawni gweithredoedd bychan ond rhyfeddol o garedigrwydd sy’n dod â llawenydd ac anhrefn. Ond pan ddaw cyfle iddi am gariad mae Amélie yn sylweddoli er mwyn dod o hyd i hapusrwydd bydd yn rhaid iddi fentro popeth a dweud beth sydd yn ei chalon. Cewch eich ysbrydoli gan y freuddwydwraig llawn dychymyg hon sy’n dod o hyd i’w llais, yn darganfod grym cysylltiad, ac yn gweld posibilrwydd ym mhob sefyllfa.
DigwyddiadCardiff Cotswold Opera: Tristan & Isolde (Act II)Mae Cardiff Cotswold Opera yn parhau ei archwiliad o weithiau Richard Wagner gyda pherfformiad o Act Dau o'i opera chwyldroadol Tristan und Isolde. Gan ddefnyddio lleihad medrus Matthew King o sgôr anferthol Wagner, ymunwch â ni er mwyn plymio mewn i un o'r gweithiau gorau yn hanes theatr.
DigwyddiadBig Bash: Gweithdy Offerynnau TaroDewch i ymuno â Patrick King (Pennaeth Offerynnau Taro CBCDC a Chyd Brif Dympanydd Cerddorfa Symffoni Llundain) am fore o chwarae offerynnau taro.
DigwyddiadBig Bash: Parti Dechreuwyr SambaGweithdy samba diddorol i bob person ifanc a hoffai wybod mwy am offerynnau taro a samba.