Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sut i ymgeisio - MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau a MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Popeth sydd angen i chi wybod am wneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Sut i ymgeisio

I gael mynediad i gwrs mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire a chadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein. Mae yna ffi untro o £28.50 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.

I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.

Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 a Chod y Cwrs ar gyfer BMus (Anrh) Cerddoriaeth yw. 

Wrth wneud cais trwy UCAS Conservatoire, bydd gofyn i chi ddewis prif disgyblaeth. Gweler y tabl am yr hyn sydd angen i chi ei ddewis.

Cwrs

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

prif disgyblaeth

Cynhyrchu Drama

Chod y cwrs

705F (llawn amser); 700P (rhan amser)

Cwrs

MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau

prif disgyblaeth

MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau

Chod y cwrs

400F

  • Yn eich cais, gofynnir i chi am fanylion eich canolwr ‘ymarferol/cerddoriaeth’. Llythyr geirda yw hwn, wedi’i ysgrifennu gan eich athro/darlithydd drama, pennaeth adran, neu unrhyw unigolyn priodol arall a all wneud sylwadau ar eich galluoedd perfformio ar actio.
  • Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich datganiad personol ar eich ffurflen gais, er mwyn rhoi darlun mor glir â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a’ch rhesymau dros wneud cais.
  • Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld. Y cyfweliad yw eich cyfle i ddarparu rhagor o wybodaeth i gefnogi eich cais. Bydd y tiwtoriaid yn gofyn i chi drafod eich diddordebau penodol, eich profiad ymarferol a’ch dyheadau gyrfa. Byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau penodol am y rhaglen hefyd.
Myfyrwyr yn chwarae pianos mewn cyngerdd.

Dyddiadau ar gyfer gwneud cais

Cwrs

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Ceisiadau’n agor

10 Gorffennaf 2024

Ceisiadau’n cau

Rydym yn cynghori’n gryf eich bod yn gwneud cais cyn diwedd mis Mawrth 2025. Byddwn yn parhau i dderbyn ceisiadau am y cwrs hwn cyhyd ag y bydd llefydd gwag ar gael.

Cwrs

MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau

Ceisiadau’n agor

10 Gorffennaf 2024

Ceisiadau’n cau

Mawrth 25 2024