

Ffioedd ac ariannu
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a'r cymorth ariannol sydd ar gael i chi.
Ffioedd dysgu
Cyllid ar gyfer myfyrwyr gradd sylfaen ac israddedigion
Mae'r canllawiau isod yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a gallai newid.
Bydd y ffordd rydych chi’n cyflwyno cais am gyllid myfyrwyr a’r arian sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw.
Cyllid i Fyfyrwyr Ôl-raddedig
Mae sicrhau cyllid yn ystyriaeth bwysig ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ac rydym yn eich annog i ddechrau chwilio am gymorth ariannol cyn gynted â phosib.
Ysgoloriaethau
Mae modd gwneud cais am nifer o ysgoloriaethau, sydd ar gael drwy haelioni cyllidwyr a phartneriaid y Coleg, unwaith y bydd cynnig wedi'i wneud i chi. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hanfon i chi, gan gynnwys gwybodaeth am gymhwysedd, ar ôl i chi gael cynnig.
Rydym yn falch iawn o fod wedi partneru â Bad Wolf ac S4C yn ddiweddar. Mae’r ddau gwmni’n cefnogi ein hymdrechion i gynyddu amrywiaeth cymuned myfyrwyr CBCDC trwy ariannu ysgoloriaethau.
Useful information

Cyllid myfyrwyr

Cymorth ariannol
