Jodie Yates
2023
Blwyddyn graddio:
Graddiodd Yu Haolei, y tenor a’r unawdydd o Dŷ Opera Shanghai, o’r Shenyang Conservatory of Music ac astudiodd o dan yr Athro Qu Ge. Ar ôl dechrau gyda’r Tŷ Opera Shanghai yn 2009, fe astudiodd gyda’r tenor enwog Wei Song. Mae ef wedi ennill gwobr gyntaf y degfed ‘Golden Bell Award’, cystadleuaeth leisiol grŵp bel canto yn ardal Shanghai. Mae wedi chwarae rôl arwyddocaol mewn sawl opera Tsieineaidd ac o amgylch y byd, megis yn ‘La traviata’, ‘Rigoletto’, ‘Nabucco’, ‘Der fliegende Holländer’, ‘Die Fledermaus’, ‘Carmen’, ‘Das Land des Lächelns’, ‘Tosca’, ‘Falstaff’, ‘Thunderstorm’, ‘Chen Zhong’ a ‘Jiang Jie’. Mae ef wedi perfformio yn India, Singapôr, Corea, Prydain, Yr Almaen, Ffrainc, Israel, Estonia a sawl gwlad arall.