Fred Pearce
2024
Darllen mwy
Blwyddyn graddio: 2025
Mae Talia Lieberman ym mlwyddyn olaf ei chwrs gradd yn astudio gydag Anne Mason. Hon yw ei phrif rôl gyntaf ond mae wedi bod yn gysylltiedig â sawl cynhyrchiad blaenorol gyda’r Ysgol Opera, gan gynnwys Hänsel und Gretel a Gala Opera WNO. Yn 2022, derbyniwyd Talia i’r Conservatorium Maastricht, gan ddod yn aelod o Ddosbarth Opera 22/23 lle derbyniodd hyfforddiant arbenigol gyda Jeremy Hulin a Roger Smeets. Mae hi’n ymddiddori’n fawr mewn cerddoriaeth gynnar a pherfformio ensemble trwy ei swydd bresennol fel clerc corawl yn Oratori Caerdydd ac mae’n edrych ymlaen at ddatblygu’r diddordeb hwn yn ei gyrfa broffesiynol.