Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Lachlan Higgins

Blwyddyn graddio: 2025

Graddiodd Lachlan Higgins, bariton o Awstralia, gyda gradd Baglor mewn Cerddoriaeth gan arbenigo mewn Llais Clasurol ynghyd â Thystysgrif IV mewn Theatr Gerddorol o Academi Celfyddydau Perfformio Gorllewin Awstralia ar ddiwedd 2021. Ers graddio, mae wedi bod yn perfformio mewn mân rolau a chorysau gydag Opera Gorllewin Awstralia ac wedi bod yn Artist Ifanc ‘Rogers and Thick’ gyda chwmni Perth, Freeze Frame Opera (2022).

Perfformiadau diweddar: Schaunard yn ‘La Bohème’, Marco yn ‘Gianni Schicchi’, Demetrius yn ‘A Midsummer Night's Dream’.

Cefnogir astudiaethau Lachlan yn hael gan Ysgoloriaeth Clive Richards ac Ysgoloriaeth Sophie’s Silver Lining.

Proffiliau myfyrwyr eraill