Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Kira Charleton

Blwyddyn graddio: 2024

Yn hanu o’r Alban, bydd y mezzo-soprano Kira Charleton yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf gydag Opera Holland Park ar gyfer eu cynhyrchiad 2024 o Tosca (Puccini) a lled-lwyfaniad o Edgar (Puccini).

Hi yw enillydd Gwobr Lieder Eileen Price, Gwobr Mabel Linwood Christopher a Gwobr Asiantaeth Harlequin.

Yn 2022, perfformiodd Kira gyda WNYO, gan ganu yn y corws a dirprwyo ar gyfer rôl Masha yn Cherry Town, Moscow (Shostakovich). Mae ei rolau operatig eraill yn cynnwys Hänsel yn Hänsel und Gretel (Humperdinck), y Fam Marie yn The Dialogue of the Carmelites (Poulenc) a Duges Monteblanco yn A Dinner Engagement (Berkeley).

Cefnogir astudiaethau Kira yn y Coleg gan Ysgoloriaeth Peter a Janet Swinburn, Ysgoloriaeth Janet Price a Sefydliad Black Heart.

Proffiliau myfyrwyr eraill