Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Jamie Farrow

Blwyddyn graddio: 2025

Dechreuodd Jamie ar ei siwrnai canu gyda Chôr Ieuenctid Berkshire, ac aeth ymlaen i ganu gyda Chôr Ieuenctid Cenedlaethol Prydain Fawr (a’r Côr Siambr) a Chôr Rudolfus. Treuliodd flwyddyn fel Ysgolor Corawl Tenor yng Nghôr Cadeirlan Caerwysg, yn perfformio ochr yn ochr â Tenebrae, cyn ennill gradd dosbarth cyntaf mewn cerddoriaeth o Brifysgol Birmingham. Yn ystod ei dair blynedd yn Birmingham roedd Jamie yn glerc lleyg Tenor yn y ddwy Eglwys Gadeiriol yn Birmingham, yn Ysgolor Tenor gyda’r CBSO o dan arweiniad Simon Halsey (A Child of Our Time gan Tippet, Deutsche Grammophon 2019), a chanodd gyda Chantorion Prifysgol Birmingham o dan Bob Chilcott a Simon Carrington. Mae Jamie hefyd wedi recordio sawl albwm fel llais cefndir i Katherine Jenkins.

Nawr ym mlwyddyn gyntaf ei gwrs gradd Meistr mewn Perfformio Llais yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac yn astudio o dan James Gilchrist, mae Jamie wedi mwynhau amrywiaeth o gyfleoedd megis y Gala Opera gyda cherddorfa’r WNO, corws Tenor ac un o’r 'Quattro Medici' yn La bela dormente nel bosco Respighi.

Proffiliau myfyrwyr eraill