Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Charlotte Pawley

Blwyddyn graddio: 2025

Charlotte yw enillydd Gwobr Adelina Patti 2024, a chyn hynny enillodd Wobr Eileen Price am Ganu Lieder a Gwobr Canu Elias i Sopranos. Yn Opera Ddwbl Gwanwyn 2024 CBCDC perfformiodd fel L’Usignolo ac Il Fuso (La bela dormente nel bosco) dan arweiniad Carlo Rizzi.

Ymhlith ei pherfformiadau diweddar yn CBCDC mae Sandmann (Hänsel und Gretel), Chwaer Catherine (Dialogue of the Carmelites); Marzelline (Fidelio), Zerlina (Don Giovanni), Naiad (Ariadne auf Naxos), Frasquita (Carmen), Ail Nith (Peter Grimes) yng ngolygfeydd opera CBCDC a Charlotte (Der Diktator) yng Ngŵyl Opera Leeds.

Mae Charlotte yn ddeiliad Gwobr Opera Sybil Tutton ac fe’i cefnogir gan Ysgoloriaethau Jenkin-Phillips.

Proffiliau myfyrwyr eraill