Hannah Saxby
2024
Blwyddyn graddio: 2024
Mae Carys Davies, y soprano o Gymru, ar hyn o bryd ym mlwyddyn olaf ei chwrs gradd BMus fel Soprano yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn astudio o dan hyfforddiant Suzanne Murphy.
Gwnaeth Carys ei hymddangosiad operatig proffesiynol cyntaf yn teithio fel y Second Young One yn The Magic Flute Opera Cenedlaethol Cymru (2023), wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Daisy Evans a’i harwain gan Paul Daniel. Roedd Carys yn aelod o Gwmni Ifanc Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer Cherry Town, Moscow (2022), wedi’i chyfarwyddo gan Daisy Evans a’i harwain gan Alice Farnham.
Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mae Carys wedi perfformio mewn sawl cynhyrchiad wedi’i lwyfannu’n llawn a’i led-lwyfanu, gan gynnwys Ail Wrach yn Dido and Aeneas, ac aelod corws ar gyfer The Choice of Hercules a Hänsel und Gretel, ac yn y corws opera ar gyfer Gala Opera 2022 CBCDC, gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru dan arweiniad Carlo Rizzi. Mae ei pherfformiadau diweddar wedi cynnwys y corws opera ar gyfer La Bella dormente nel bosco (CBCDC), eto dan arweiniad Carlo Rizzi.
Ym mis Medi 2024 mae Carys yn edrych ymlaen yn fawr i ddechrau ei chwrs gradd Meistr mewn Perfformio yn y Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain, fel ysgolor.