Saskia West
2024
Darllen mwy
Blwyddyn graddio: 2020
Graddiodd Callum Scott Howells mewn Actio yn 2020. Yn ystod ei drydedd flwyddyn chwaraeodd ran Colin yng nghyfres glodfawr Russell T Davies It’s A Sin ar Channel 4, gwaith y cafodd ei enwebu am Wobr Deledu’r Academi Brydeinig amdano ac enillodd wobr BAFTA Cymru am yr Actor Gorau.
Aeth ymlaen i chwarae rhan Emcee yn Cabaret yng Nghlwb Kit Kat y Playhouse Theatre ac yna perfformiodd fel Romeo yng nghynhyrchiad cydweithredol y National Theatre/Sherman o Romeo & Julie.
Ei brosiect diweddaraf yw’r ffilm fywgraffyddol Relax lle mae’n chwarae rhan Holly Johnson, canwr Frankie Goes to Hollywood.